Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Cyhoeddiadau

Swyddog Cyhoeddiadau

Trosolwg:

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Mi fyddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio o bell (er yn aros yn y DU) neu batrwm gweithio'n hyblyg.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Prifysgol Aberystwyth
Cyflog: £23,487 - £26,341 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 04/08/2022
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Ffôn: 01970 628555
Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3BF
Disgrifiad:

Disgrifiad Swydd

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Mi fyddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio o bell (er yn aros yn y DU) neu batrwm gweithio'n hyblyg.

Bydd y Swyddog Cyhoeddiadau’n darparu gwasanaeth ysgrifennu testun i’r Brifysgol, gan ddatblygu testun clir a chryno i gyhoeddiadau print a digidol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgriptiau ar gyfer cynnwys fideo a sain yn ogystal â gwirio ansawdd y cynnwys sy’n bod eisoes a chynnwys sy'n cael ei ddatblygu.  

Bydd y Swyddog Cyhoeddiadau yn atebol i Bennaeth Cyhoeddiadau Digidol a Phrint. Bydd yn rheoli pob agwedd ar y cynnwys digidol a phrint gyda’r adrannau academaidd a’r adrannau gwasanaeth proffesiynol er mwyn sicrhau cywirdeb y testun.

Mae gallu cyfathrebu ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon. 

I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Joseph Smith, Pennaeth Cyhoeddiadau Digidol a Phrint, trwy e-bostio jes24@aber.ac.uk.

Cyf: GMSR.22.4336

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).

Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i https://jobs.aber.ac.uk/cy/home.html. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig ac ymgeiswyr sydd ag anableddau.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Aelodaeth

Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro (Cyfnod Mamolaeth)

Swyddog Cefnogi Project Ymchwil (CAL:ON)