Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

Trosolwg:

Bydd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu Strategaeth Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol newydd Menter a Busnes, yn ogystal â llunio’r Strategaeth Brand a Busnes. Gan alluogi timau i rannu straeon gwych, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adeiladu enw da’rCwmni, gan ddangos sut mae Menter a Busnes yn magu arloesedd, sut mae’n ddeinamig, yn rhagweithiol, ac yn gwneud gwahaniaeth.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Menter a Busnes
Cyflog: £62,500
Dyddiad Cau: 05/06/2024
Amser Cau: 11:59:00
Enw Cyswllt: Goodson Thomas
Ffôn: 029 2167 4422
Lleoliad: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Gaerwen a/neu Lanrwst
Disgrifiad:

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

Menter a Busnes

Cyflog: £62,500

Lleoliad: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Gaerwen neu Lanrwst

Mae Menter a Busnes, cwmni annibynnol, dielw sy’n ymroddedig i rymuso busnesau Cymru, yn chwilio am Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata i ymuno â’i Dîm Arweinyddiaeth.

A chanddo weithlu ymroddedig o tua 170 o unigolion yn gweithio ar draws pum swyddfa yng Nghymru, mae Menter a Busnes yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, cefnogaeth fasnachol arbenigol, ac yn meithrin rhwydweithiau cydweithredol ar draws amrywiol sectorau. Gan weithredu ledled Cymru, a chyrraedd gweddill y DU ac Ewrop, mae'r cwmni'n cynnal rhagoriaeth gydag achrediad ISO9001, gan sicrhau'r safonau uchaf yn ei wasanaethau.

Bydd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu Strategaeth Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol newydd Menter a Busnes, yn ogystal â llunio’r Strategaeth Brand a Busnes. Gan alluogi timau i rannu straeon gwych, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adeiladu enw da’rCwmni, gan ddangos sut mae Menter a Busnes yn magu arloesedd, sut mae’n ddeinamig, yn rhagweithiol, ac yn gwneud gwahaniaeth.

Yn siaradwr Cymraeg (hyd at lefel *C1), bydd gennych chi:

• Sgiliau dylanwadu cryf, yn enwedig mewn perthynas â phobl a pherfformiad.
• Hanes llwyddiannus fel uwch reolwr, gan gynnwys profiad penodol o arwain timau marchnata a chyfathrebu yn uniongyrchol a thrwy reoli matrics a chyllideb farchnata yn effeithiol mewn sefydliad o faint tebyg neu fwy.
• Ymrwymiad i greu cynnwys o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer a'r manteision sy'n deillio o ddull strategol o farchnata a chyfathrebu ar draws y busnes.
• Tystiolaeth o ddefnyddio dylanwad personol i wella ac arloesi marchnata a pherfformiad cyfathrebu, yn enwedig ar lefel Cyfarwyddwr a Bwrdd.
Datganiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Menter a Busnes wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol yn y gweithle. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Er mwyn cefnogi ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, ar gyfer y rhan fwyaf o’n swyddi, byddwn yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

*C1 Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn deall yn hawdd bron popeth sy'n cael ei glywed neu ei ddweud, ac yn gallu siarad yn estynedig am faterion cymhleth, cyflwyno dadleuon, ac arwain trafodaethau. Byddan nhw'n gallu crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, ac yn gallu mynegi eu hunain yn rhugl ac yn fanwl, gan addasu arddull eu hiaith yn ôl y gynulleidfa.

I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o Becyn yr Ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu gwybodaeth@goodsonthomas.com.

Dyddiad cau: Canol dydd, 5 Mehefin 2024
Dyddiad y cyfweliad: I’w gadarnhau

Cydnabyddir pob cais.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog yr Amgylchedd (Cadwraeth) – Nifer o swyddi ar draws sawl lleoliad

Cydlynydd Arfordirol

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu Rhan Amser (oriau i’w drafod)