Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd
Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd
Trosolwg:
Rydym yn recriwtio Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd, o fewn y tîm Gwybodaeth i’rCyhoedd. Bydd y rôl yn gweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y Senedd i ddarparu taithddi-dor i gwsmeriaid ar draws ein holl wasanaethau.
Disgrifiad:
Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd
Dyddiad cau: 23:59 28 Mai 2024
Cyflog: £27,356- £32,841 (Band Rheoli 3 – EO)
Lleoliad: Bydd y rôl hon yn un ystwyth, gyda chyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithiogartref. Bydd yn ofynnol i chi ddod i’r swyddfa yn Nhy Hywel, Bae Caerdydd dri diwrnod yrwythnos (dydd Mawrth hyd ddydd Iau).
Rydym yn recriwtio Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd, o fewn y tîm Gwybodaeth i’rCyhoedd. Bydd y rôl yn gweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y Senedd i ddarparu taithddi-dor i gwsmeriaid ar draws ein holl wasanaethau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd i'r Rheolwr Gwybodaeth i’r Cyhoedd a SwyddfaGogledd Cymru, ac yn un o dri sy'n rheoli tîm bach i gyflawni'r gweithrediadau o ddydd iddydd, ac arwain ar welliannau i’r gwasanaeth sydd wedi’u hamlygu yn strategaeth y tîm a'nblaenoriaethau corfforaethol.
Mae’r tîm Gwybodaeth i’r Cyhoedd yn darparu gwasanaeth gwybodaeth ddwyieithog, diduedd i wella dealltwriaeth a diddordeb y cyhoedd yng ngwaith y Senedd. Bydd y swyddhon yn gweithio'n agos gyda rheolwyr eraill yn y tîm Gwybodaeth i’r Cyhoedd, sy'n rheoligwasanaeth cwsmeriaid ac yn cadw lle ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu.
Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o arwain tîm bach yn ystod cyfnod o newid wrth i niddigideiddio ein gwasanaeth, a gwella ein systemau TGCh a busnes er mwyn gwellacyfleoedd a gwasanaethau ymgysylltu â chwsmeriaid.
Meini prawf o ran y Gymraeg – Lefel 4
Mae’r sgiliau ieithyddol ar gyfer y swydd hon wedi’u hasesu fel a ganlyn:
• Gwrando: Yn deall trafodaethau a chyfarwyddiadau, hyd yn oed ynglyn â phynciauanghyfarwydd. (Lefel 4)
• Siarad: Yn gallu siarad a chymryd rhan mewn trafodaeth am gyfnod hir, yn hyderus a heb anogaeth. (Lefel 4)
• Darllen: Yn deall gohebiaeth, erthyglau papur newydd ac adroddiadau wedi'u hanelu at siaradwyr Cymraeg rhugl. (Lefel 4)
• Ysgrifennu: Yn gallu ysgrifennu gwahanol fathau o destunau mewn arddulliau sy'nbriodol i'r darllenydd sydd mewn golwg. (Lefel 4)
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r swydd-ddisgrifiad.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *