Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Iechyd Cyhoeddus

Swyddog Iechyd Cyhoeddus

Trosolwg:

Disgrifiad

Gwasanaeth: Rheoleiddio a Datblygu Economaidd

Adran: Gwarchod y Cyhoedd 

Oriau: 37 awr yr wythnos

Cyflog: Graddfa 6, £32,020 - £35,411 yr flwyddyn

Cytundeb: Parhaol 

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel Safonol.

Gweler y Swydd Ddisgrifiad ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon. 

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith.  Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod disgrifiad swydd/manylion personol fel ffeil PDF.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb personol i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu. 

** Ni ddylai staff Cyngor Sir Ynys Môn ymgeisio drwy'r dudalen allanol, bydd angen i chi fewngofnodi drwy Ddangosfwrdd Amdanaf I i wneud cais. Os na fyddwch yn gwneud cais drwy Dangosfwrdd Amdanaf I, yn anffodus ni dderbynnir eich ffurflen gais. ** 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cyngor Sir Ynys Mon
Cyflog: Graddfa 6, £32,020 - £35,411 yr flwyddyn
Dyddiad Cau: 13/03/2023
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Llinos Roberts
Ffôn: 01248752839
Lleoliad: https://saas.zellis.com/ynysmon-isleofanglesey/wrl/pages/vacancy.jsf?search=0
Disgrifiad:

1. Goruchwylio cydymffurfiad â gweithdrefnau a pholisïau rheoli clefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwyliadwriaeth mewn lleoliadau cymunedol, ymchwilio i achosion o wenwyn bwyd ac achosion o glefydau hysbysadwy statudol
2. Ymateb i ac ymchwilio i hysbysiadau / rhybuddion o system rheoli digwyddiadau ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru a elwir yn TARIAN ar hyn o bryd, ac asesu'r risg.
3. Darparu cyngor a chefnogaeth atal a rheoli heintiau i wahanol leoliadau fel gwasanaethau gofal, llongau eithwyr, ysgolion, a lleoliadau gofal plant ac ati i sicrhau bod rheolaethau heintiau priodol ar waith.
4. Cychwyn gorfodaeth a chamau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd a'r Amgylchedd, ar ôl cyfeirio materion at y rheolwr llinell. Mae'r rhain yn cynnwys paratoi a chyflwyno rhybuddion, paratoi a rhoi tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol. Ymgymryd â'r gweithgareddau gorfodi gofynnol yn ôl yr angen i sicrhau cydymffurfiad rheoliadol yn amrywio o gyngor anffurfiol i gamau ffurfiol ac erlyn yn unol â Chodau Arferion a chanllawiau.
Cyngor Sir Ynys Môn
Swydd Disgrifiad / Manyleb Person
RHAN A
5. Cefnogi Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a chydweithwyr atal heintiau eraill i adnabod, ymchwilio, rheoli ac adrodd yn brydlon am achosion sy'n gysylltiedig â chlefydau heintus hysbysadwy, clefydau trosglwyddadwy ac achosion o wenwyn bwyd.
6. Casglu, trefnu, dilysu ac adrodd yn ôl i gydweithwyr a rheolwyr ar ddata o archwiliadau a gweithgareddau ymchwilio.
7. Cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr. Cynnal ffeiliau safleoedd, nodiadau achos, a lle bo hynny'n briodol, paratoi ffurflenni blynyddol / paratoi adroddiadau i asiantaethau perthnasol eraill.
8. Cynnal archwiliadau hylendid bwyd yn unol â Chod Ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
9. Sicrhau cymhwysedd a dangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn unol â safonau proffesiynol a gofynion statudol. Bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â deddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar waith yr adran.
10. Sicrhau cydymffurfiad llawn â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor Sir (e.e. Caffael yr UE a Rheoliadau Ariannol y Cyngor; Deddf Diogelu Data; Rhyddid Gwybodaeth; Deddf Cydraddoldeb 2010; Safonau’r Iaith Gymraeg).
11. Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a'r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae'r polisi hwnnw'n eu gosod ar bob gweithiwr, yn cyd-fynd â gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy'n cynnwys cefnogi plant, oedolion sydd mewn perygl a'u teuluoedd i'w cadw'n ddiogel ac iach.
12.Gall bod gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni unrhyw gyfrifoldebau eraill hefyd fel sy'n briodol o ran natur y swydd a'i gradd.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Job Description

Disgrifiad Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Datblygu Rhanbarthol - De Orllewin (dros dro) (1 FTE)

Athro Mathemateg

Swyddog Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi