Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Trosolwg:
Mae’r Tîm Cyfathrebiadau yn gyfrifol am hyrwyddo’r Comisiwn Brenhinol a’i weithgareddau drwy raglen ymgysylltu sy’n hygyrch i gynulleidfa eang ac amrywiol. Mae gan y Comisiwn rwydwaith cryf o Gyfeillion, sy’n cael gwybodaeth yn rheolaidd am weithgareddau a digwyddiadau’r Comisiwn.
Fel aelod o’r tîm hwn, bydd y Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn chwarae rôl bwysig o ran cynnal a datblygu’r gynulleidfa hon drwy ddulliau cyfathrebu ac ymgysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb arloesol yn ogystal â dulliau sydd wedi ennill eu plwyf. Bydd hynny’n golygu cysylltu pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt â gwaith y Comisiwn ac adnoddau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bydd deiliad y swydd yn aelod o dîm brwdfrydig sy’n cydweithio’n agos â’i gilydd mewn amgylchedd dwyieithog dan arweiniad y Rheolwr Cyfathrebiadau.
Disgrifiad:
1. Creu a pharatoi deunyddiau ysgrifenedig a darluniadol dwyieithog (gan gynnwys negeseuon ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a thestun ar gyfer digwyddiadau ac arddangosfeydd) sy’n hyrwyddo gwaith y Comisiwn mewn modd cynhwysol i gynulleidfa mor eang ag sy’n bosibl.
2. Datblygu gweithgareddau ac adnoddau ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n adlewyrchu’r ystod eang o waith a wneir gan gydweithwyr yn y Comisiwn, gan gynnwys gwaith arloesol yn yr amgylchedd digidol ac ar-lein.
3. Cysylltu â chydweithwyr i gasglu deunydd i hyrwyddo eu gwaith, a chyfrannu i flog y Comisiwn a deunydd ysgrifenedig arall. Bydd y deunydd hwnnw’n adlewyrchu adnoddau cyfoethog Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a’n rhaglenni ymchwil a darganfod.
4. Helpu i drefnu a chyflwyno anerchiadau a digwyddiadau, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd hynny’n golygu gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau weithiau.
5. Cynnal a datblygu’r rhwydwaith presennol o Gyfeillion, a bod yn gyfrifol am ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am newyddion a digwyddiadau.
6. Paratoi a dosbarthu datganiadau i’r wasg er mwyn hyrwyddo digwyddiadau, darganfyddiadau a chyhoeddiadau’r Comisiwn.
7. Gweithio gyda’r Rheolwr Cyfathrebiadau i gynnal a gwella gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu’r Comisiwn, gan gynnwys dadansoddi adborth gan ddefnyddwyr.
8. Gweithio gyda’r Rheolwr Cyfathrebiadau i baratoi gwybodaeth ar gyfer ffurflenni chwarterol ac adroddiadau blynyddol.
9. Rheoli gofynion y Comisiwn o ran cyfieithu.
10. Helpu Swyddog Iaith Gymraeg y Comisiwn i hyrwyddo’r Comisiwn fel sefydliad dwyieithog yn fewnol ac yn allanol.
Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n briodol i radd a natur y swydd, y gallai fod yn rhesymol i’r rheolwr llinell ofyn neu gytuno iddynt gael eu cyflawni.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Cysylltiad Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd