Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynorthwyydd Ymgysylltu Cyhoeddus Gwasanaethau Etholiadol

Cynorthwyydd Ymgysylltu Cyhoeddus Gwasanaethau Etholiadol

Trosolwg:

Gwasanaeth: Busnes y Cyngor


Adran: Gwasanaeth Democrataidd


Oriau: 37 awr yr wythnos 


Cyflog: Graddfa 4, £24,054 - £26,845 y flwyddyn 


Cytundeb: Parhaol

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cyngor Sir Ynys Môn
Cyflog: £24,054 - £26,845 yr flwyddyn
Dyddiad Cau: 25/09/2023
Amser Cau: 23:59:00
Enw Cyswllt: Haulwen Hughes
Ffôn: 01248 752519
Lleoliad: Cyngor Sir Ynys Mon, Llangefni, Llangefni, Ynys Môn, Cymru, LL77 7TW
Disgrifiad:

Cynorthwyo’r gwaith o weithredu newidiadau yn sgil Deddf Etholiadau 2022 ac unrhyw newidiadau dilynol pellach, gan gynnwys paratoi a chynhyrchu cardiau adnabod pleidleiswyr, digidoleiddio, cyfrinachedd, paratoadau pleidlais drwy’r post, ceisiadau arlein, cyfyngiadau ar bleidleisio drwy’r post ac ail-ymgeisio, pleidleisiau procsi a newidiadau o ran hygyrchedd i bleidleiswyr sydd ag anghenion penodol.

Cynorthwyo’r gwaith o oruchwylio gweinyddiaeth, paratoi, trefnu a chyflwyno’r holl etholiadau a refferenda. 

Cynorthwyo’r gwaith o gasglu a chynnal cofrestrau etholiadol yn effeithiol, yn brydlon ac mewn modd cost effeithiol gan gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau etholiadol, a sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni safonau perfformio a osodir gan y Comisiwn Etholiadol.

Arwain gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus gyda phobl ifanc yn bennaf, a gydag unrhyw newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth

Gweler y Swydd Ddisgrifiad ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon. 


Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith.  Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.


Atodir isod disgrifiad swydd/manylion personol fel ffeil PDF.


Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb personol i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu. 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Job Description

Swydd Ddisgrifiad

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cyfrifydd Cymwysedig (ACA, ACCA, CTA)

Gyrrwr / Cynorthwyydd Casglu a Phacio

Swyddog Gofal Plant a Chwarae - Plant a Chefnogi Teuluoedd