Y Cylch Sialc

Trosolwg

Pryd: 15/10/2019 - 18/10/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Sialc

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle)
gan Bertolt Brecht
Trosiad i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood
gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw gan Gwenno 

Mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr

“Yn y dyddiau mwyaf gwaedlyd, mae pobl dda yn byw.”

Mae chwyldro ar droed a’r ddinas ar dân. Yn y dryswch, mae babi’n cael ei adael ar ôl.

Mae merch ifanc yn aberthu popeth er mwyn achub y plentyn. Â’r wlad dan warchae a milwyr yn eu herlid, mae hi’n benderfynol o’i warchod, doed a ddelo. Ond mewn byd llygredig, a yw cariad yn ddigon?  

Am y tro cyntaf erioed, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn troedio i fyd Bertolt Brecht gyda throsiad newydd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni.

Yn cynnwys iaith gref

Cysylltwch â' r Swyddfa Docynnau am brisiau arbennig i ysgolion.