Pontio yn cyflwyno: Elephant Sessions

Trosolwg

Pryd: 07/12/2019

Amser: 08:00 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Elephant

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Mae Elephant Sessions, sy'n dod o Ucheldiroedd yr Alban, yn croesi ffiniau ac yn ysgwyd disgwyliadau i'w seiliau.

Ffrwydrodd y band ar y sîn indie gwerin mewn ffordd ryfeddol gyda'u halbwm diwethaf All We Have Is Now ac ers hynny maent wedi ymddangos yn rhai o leoliadau a gwyliau mwyaf nodedig y byd. Gwelwyd y tyrfaoedd yn heidio i'w perfformiadau a lloriau pebyll mawr yn torri dan bwysau'r dawnswyr eiddgar.

Mae'r albwm ddiweddaraf What Makes You yn addo adeiladu ar y llwyddiant hwn gyda sŵn arweiniol y mandolin a’r ffidil yn gwthio eu terfynau ymhellach, gan gyd-fynd â rhythm ergydiol drymiau, bas a gitâr, ac ymdoddi â churiadau dawns electronig. Dyma gerddoriaeth draddodiadol wedi'i throi ar ei phen, ailddyfeisio disgwyliadau, sain newydd sbon. Mae'n gyffrous.

Gig Sefyll