Llŷr Williams

Trosolwg

Pryd: 11/10/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Deiniol Road Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/19Llyr

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 382828

Disgrifiad

Mae'r pianydd o Gymro, Llŷr Williams, yn cael ei edmygu'n helaeth am ei ddeallusrwydd cerddorol dwfn, ac am natur fynegiadol a chyfathrebol ei ddehongliadau. Mae wedi dod i fri arbennig fel perfformiwr gwaith Beethoven gan gyflwyno nifer o gylchoedd sonata cyflawn, yn fwyaf diweddar yn Neuadd Wigmore a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â chylch concerto gyda Cherddorfa Siambr yr Alban.

Yn ystod tymor 2019-20 mae Llŷr Williams yn parhau i gydweithio â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Choral Fantasy Beethoven, yn ogystal ag ymddangos am y tro cyntaf gyda'r Orchestre Symphonique de Bretagne. Mae Williams hefyd yn dychwelyd i Ŵyl Caeredin ym mis Awst 2019 ac, yn ystod tymor dathlu dau ganmlwyddiant a hanner geni Beethoven, bydd yn cynnig cylch cyflawn o sonatâu yn y Festival Cultural de Mayo yn Guadalajara, Mecsico, a chylchoedd rhannol yn Moscow a Saint Petersburg.

Adlewyrchir repertoire wych Williams yn ei gryno-ddisgiau nodedig. Dyfarnwyd ei set o 12 CD 'Beethoven Unbound', o gylch Beethoven Neuadd Wigmore (Signum Records) yn 'Recording of the Month' gan BBC Music Magazine yn Awst 2018.  Mae recordiadau eraill gan Williams yn cynnwys dau albwm unigol gan Signum, yn ogystal ag ail Concerto William Mathias i'r Piano gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar label Cymreig Tŷ Cerdd

Mae Llŷr Williams yn gyn-Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC ac yn enillydd Gwobr Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni, ac yn Gymrawd er Anrhydedd ac artist cysylltiedig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.