O'r Archif: Perfformiad cyntaf band Y Cyrff ar y teledu
May 10, 2022
Dyma berfformiad cyntaf y grŵp o Lanrwst, Y Cyrff ar y teledu ym 1985. Roedd Y Cyrff yn fand poblogaidd pync yn yr 1980au a ddaeth i ben ym 1992. Dyma un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru yn y tri deg mlynedd diwethaf. Y prif leisydd oedd Mark Roberts gyda’i guitar, Barry Cawley hefyd ar y gitar, Paul Jones ar y gitar fas a Dylan Hughes ar drymiau. Aeth Mark Roberts a Paul ymlaen i sefydlu Catatonia, gyda Cerys Matthews yn brif leisydd. Llwyddodd Catatonia i ennill sylw bydeang yn ddiweddarach.
Daw'r clip hwn o archif ITV/HTV, gyda Jim O'Rourke yn holi ar raglen Larwm. Fe ryddhawyd y gân Tic Toc fel rhan o gasgliad amlgyfrannog Cam o’r Tywyllwch gan Recordiau Anhrefn ym 1985. Yn ôl yr Athro Pwyll ap Sion, "Er eu bod erbyn heddiw yn cael eu cydnabod fel un o’r grwpiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg, roedd Y Cyrff yn grŵp a oedd ar yr ymylon yn ddiwylliannol ac yn nodweddu cyfnod o newid mawr yn niwylliant yr ieuenctid."