Fideos i'ch tanio yn barod at gêm fawr tîm pêl-droed Cymru
May 27, 2022
Dyma rywbeth bach i'ch cyffroi cyn y gêm anferthol yn y gemau ailgyfle Cwpan Y Byd ddydd Sul. Rydym yn Lleol.cymru wedi paratoi fideos a cherddoriaeth i'ch tanio, wrth i Gymru herio Iwcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Y wobr fydd lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Qatar ym mis Tachwedd! Dyma'r gêm fwyaf ers Portiwgal yn rowndiau cyn-derfynol Ewro 2016. Mae hi'n argoeli'n noson wefreiddiol wrth i Dafydd Iwan ddychwelyd i ysbrydoli'r Wal Goch gyda Yma o Hyd!
Rydym wedi dewis ambell i gân yn dathlu'r tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd, yn cynnwys clasur Yws Gwynedd 'Ni fydd y Wal', Rhedeg i Paris, Anrhefn/Candelas, 'Dilyn Cymru' gan yr annwyl Ail Symudiad, a darlleniad o gerdd Llion Jones yn Ewro 2016, wedi'i ddarllen gan yr actor byd enwog Rhys Ifans. Rydym hefyd wedi cynnwys fersiwn anhygoel o'r anthem genedlaethoil cyn gêm Hwngari ar y ffordd i Ewro 2020 ynghyd â Yma o Hyd cyn gêm Awstria eleni. Rydym hefyd wedi cynnwys bonws bach gyda rhyddhau fideo newydd sbon o Yma Hyd, Dafydd Iwan ar gyfer S4C. Mwynhewch! C'mon Cymru!