Edrych yn ôl ar Sesiwn Fawr Dolgellau
May 27, 2022
Cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau ei sefydlu ym 1992 yn wreiddiol fel gŵyl werin a bu'n rhedeg tan 2008. Y nôd oedd trefnu gŵyl ar strydoedd Dolgellau a hynny yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd. Datblygodd Sesiwn Fawr Dolgellau i fod yn un o brif wyliau cerddorol Ewrop, a llwyddodd i ddenu perfformwyr o sawl gwlad led-led y Byd.
Atgyfodwyd y Sesiwn Fawr yn 2010 dan enw 'Sesiwn Fach' ond yn hynny ar raddfa llawer llai. Er gwaetha'r Pandemig yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ar ôl saib, mae'r Sesiwn Fawr yn ôl!
Rydym wedi bod yn edrych yn ôl ar gyfoeth sesiynau'r gorffennol ac wedi dethol rhai o berfformiadau bandiau ac artistiaid y Sîn Roc Gymraeg.