Peli Cig Oen Cymru Francesco Mazzei wedi’u llenwi â burrata gyda saws tomato a pesto basil
sdv fv dfvdf klm klmklm klm klmkl mlkm
- Bydd angen
- 500g briwgig Cig Oen Cymru PGI
- 30g persli
- 80g caws Grana Padano PDO
- 80g caws Pecorino Romano PDO
- 250g caws Burrata di Andria PGI
- 250g bara surdoes
- 300ml llaeth
- 2 ŵy
- Pupur du
- Halen
- Ar gyfer y saws tomato
- 1 winwnsyn mawr gwyn
- 1 ewin garlleg
- 1kg passata tomato
- 10 deilen basil
- Halen
- Ar gyfer y pesto
- 300g dail basil
- 80ml olew olewydd ifanc iawn
- 20g caws Pecorino Romano PDO
- 20g caws Grana Padano PDO
- ½ ewin garlleg
- 20g cnau pîn
- Halen
I wneud y saws tomato, torrwch y winwnsyn a’r garlleg a’u chwysu mewn sosban gydag ychydig o olew olewydd ifanc iawn cyn ychwanegu’r passata. Sesnwch gyda halen a phupur ac ychwanegwch y dail basil. Mudferwch am ryw awr, gan ychwanegu ychydig o ddŵr os yw’n mynd yn rhy sych.
Tra bod hwnnw’n mudferwi, cynheswch 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn tun rhostio mawr. Sesnwch ysgwydd yr oen gyda halen a phupur a’i ffrio yn yr olew dros wres uchel, nes ei bod wedi’i serio’n braf drosti.
Torrwch y bara yn ddarnau bach a’u socian yn y llaeth nes bod y cyfan wedi’i amsugno, yna gwasgwch unrhyw hylif gormodol allan â llaw.
Rhowch y cig mewn powlen, ychwanegwch y bara a’i gymysgu’n drylwyr. Nawr ychwanegwch y Grana Padano, y Pecorino, y persli wedi’i dorri a’r wyau. Cymysgwch yn dda a’i sesno gyda halen a phupur.
Siapiwch y gymysgedd i mewn i 12 pelen gig. Gwnewch ffynnon fach yng nghanol pob un, ac ychwanegwch lond llwy de o gaws Burrata a’u cau eto, gan ofalu eu bod wedi’u selio’n dda fel nad yw’r Burrata yn gollwng.
I wneud y pesto, rhowch y dail basil mewn dŵr berwedig yn gyflym a’u hoeri mewn dŵr rhewllyd i’w hatal rhag coginio. Draeniwch a’u trosglwyddo i gymysgydd. Ychwanegwch yr holl gynhwysion pesto eraill a’u cymysgu yn y cymysgydd nes bod popeth wedi’i gyfuno’n dda. Sesnwch gyda halen.
Ychwanegwch y peli cig at y saws tomato a gadewch iddyn nhw goginio’n drylwyr. Trosglwyddwch i ddysgl weini a gorffen y cyfan gyda llwyeidiau hael o pesto.