Pa mor dda ydych chi'n adnabod Gareth Bale?

Survey Image
Mae Gareth Bale yn cael ei ystyried fel un o gewri Cymru, wedi arwain y tîm cenedlaethol i dair prif bencampwriaeth yn cynnwys Cwpan y Byd yn Qatar. Trwy ei gampau cwbl anhygoel, llwyddodd i ddyrchafu Cymru ar lwyfan y byd.
Ni ellir gor bwysleisio ei gyfraniad enfawr i Gymru, nid yn unig ym maes y Bêl Gron ond yn ehangach. Mae pobl o dramor bellach yn gwybod am Gymru a hynny diolch yn bennaf i Gareth Bale. Pa mor dda yr ydych chi'n adnabod yr hogyn o Gaerdydd aeth ymlaen i fod yn Galactico? Profwch eich hun!

Pob lwc
Beth yw enw canol Gareth Bale?
Pa wlad oedd gwrthwynebwyr Cymru pan enillodd Bale ei gap cyntaf?
Faint oedd ffi trosglwyddo Gareth Bale o Tottenham Hotspur i Real Madrid?
Pa ysgol uwchradd y cafodd Bale ei addysg?
Yn erbyn pa wlad yr enillodd Bale ei ganfed cap?
Beth yw enw bar Gareth ar Stryd y Castell yng Nghaerdydd?
Pa gyn-chwaraewr pêl-droed yw ewythr Gareth Bale?
Pa ddau bersonoliaeth yn y byd chwaraeon oedd yn yr un ysgol uwchradd?
Pa un o'r dyfyniadau hyn sy'n perthyn i Gareth Bale?
Dechreuodd Bale ei yrfa yn y safle?
Faint o goliau sgoriodd Bale yn Ewro 2016 yn Ffrainc?
Pa slogan enwog sy'n gysylltiedig gyda Gareth Bale?
Gareth Bale sy'n dal y record fel prif sgoriwr tîm dynion Cymru, pwy oedd y prif sgoriwr cyn hynny?
Faint o goliau sgoriodd Bale i'r tîm cenedlaethol?
Yn erbyn pa wlad y sgoriodd Bale y gic rydd sy'n ymddangos gyntaf yn fideo eiconig Yma o Hyd gyda Dafydd Iwan?
We've saved your score in your participation section here

Share your score

More

SEE ALL

Pa mor dda yr ydych yn adnabod Cymru?

Pa mor dda ydych chi’n adnabod mynyddoedd Cymru?

Pa mor dda ydych yn adnabod Traethau Cymru?