Ydych chi'n cytuno y dylai Boris Johnson aros fel arweinydd y Blaid Geidwadol?

This survey is now closed
Survey Image

Mae Boris Johnson wedi bod yn ffigwr dadleuol ers iddo ddod yn brif weinidog, ond beth ydych chi'n ei feddwl?

Mae ei gefnogwyr yn honni ei fod wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt yn ystod y pandemig, trwy wneud y penderfyniadau cywir mewn cyfnod o argyfwng. Maent hefyd yn mynnu ei fod wedi llwyddo i lywio a gwireddu Brexit o'r diwedd, trwy arwyddo cytundeb ymadael gyda'r Undeb Ewropeaidd a gadael yr U.E yn swyddogol. Maent yn gredinol ei fod wedi arwain yr ymdrech ryngwladol yn erbyn Rwsia a chefnogi Iwcrain.

Mae ei feirniaid ar y llaw arall yn credu ei fod wedi methu'n llwyr yn ei ymateb i'r pandemig gan bwyntio at gyfradd uchel y marwolaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bu Heddlu'r Met hefyd yn ymchwilio i nifer o bartis anghyfreithlon PartyGate yn 10 Downing St. yn ystod cyfnodau clo dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae llawer o arolygon barn wedi canfod fod mwyafrif o'r cyhoedd yn feirniadol o'r partion. Mae ei feirniaid hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw Brexit heb ei gwblhau eto, gyda llawer o broblemau sylfaenol yn parhau fel protocol Gogledd Iwerddon.

Beth yw'ch barn chi? Mae cyfle i chi fwrw eich pleidlais isod.

The survey is now closed.

Ydych chi'n cytuno y dylai Boris Johnson aros fel arweinydd y Blaid Geidwadol?
1. Nac ydw
70% Complete
100 %
2. Ydw
70% Complete
0 %

More

SEE ALL
A fyddwch chi'n dathlu'r Coroni?
Pwy fydd yn ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2023?
Sawl diwrnod ddylai'r Eisteddfod Genedlaethol fod?