Pa mor bell yr aiff Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar?
O'r diwedd, o'r diwedd yr ydym wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958! Y cwestiwn mawr sydd ar ein meddyliau bellach, pa mor bell yr awn ni yn y gystadleuaeth yn Qatar ym mis Tachwedd a Rhagfyr?
Yr oedd y gêm yn erbyn Iwcrain ar noson lawog yng Nghaerdydd yn hudolus ymhob ystyr y gair, yr anthem, arbedion Wayne Hennesey, taclo Ben Davies, cymeradwyaeth i gefnogwyr Iwcrain a Dafydd Iwan yn cyd-ganu cytgan 'Yma o Hyd' gyda'r tîm i gyd. Heb os, dyma oedd noson i wireddu breuddwydion a choroni blynyddoedd lawer o siom.
Wrth i'r llwch setlo ar noson fythgofiadwy, yr ydym yn troi ein golygon at diroedd sych a phoeth Qatar ym mis Tachwedd. Pa mor bell yr aiff Cymru yw'r cwestiwn mawr?
Mae cyfle i chi fwrw eich pleidlais isod.