Yr Urdd yn cyhoeddi cartŵn newydd wedi’i ysbrydoli gan blant Cymru a’r byd
September 09, 2024
Mae adran Gylchgronau’r Urdd wedi cyhoeddi cyfres gartŵn newydd o’r enw ‘Boncyrs’ gan arlunydd ifanc deunaw oed, Corb Davies, yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn digidol Cip. Mae cymeriadau’r cartŵn gwreiddiol wedi’u hysbrydoli gan siaradwyr Cymraeg ifanc o Gymru ac o bob cwr o’r byd.
“Mae’r Urdd wastad yn chwilio am ffyrdd i gynnig cyfoeth o brofiadau a chyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc,” meddai Rheolwr Cyhoeddiadau a Chyfathrebu’r Urdd, Branwen Rhys Dafydd.
“Mae cylchgrawn Cip yn adnodd digidol hynod o boblogaidd, sy’n cyrraedd dros 5,000 o danysgrifwyr bob yn ail fis – a hynny’n rhad ac am ddim. Mae’r cylchgrawn yn blatfform i rannu profiadau, barn a llais plant, ac mae’r cartŵn newydd yma gan y cartwnydd ifanc Corb Davies yn ddatblygiad cyffrous yn ein darpariaeth. Mae’r cartŵn yn adlewyrchu bywyd a hiwmor ein darllenwyr ac yn gwneud y Gymraeg yn hygyrch i blant oed cynradd Cymru a thu hwnt.”