Ymchwil Canser Cymru yn enwi llysgenhadon newydd yr elusen

January 23, 2025

‘Saith Seren’ i gefnogi elusen ymchwil canser yng Nghymru.

MISS WORLD CYMRU Millie-Mae Adams; Jamie Baulch; Mari Grug; Angela Jay; Philippa Tuttiett; Nigel Walker a’r entrepreneur o ogledd Cymru, Rob Lloyd, yw llysgenhadon newydd Ymchwil Canser Cymru.

Cawsant eu penodi i’r rolau gwirfoddol i gydnabod eu cefnogaeth i’r elusen ymchwil canser Gymreig.

Bydd y saith yn helpu i godi proffil Ymchwil Canser Cymru ac yn gweithredu fel cynrychiolwyr i’r elusen gan helpu gyda gweithgareddau fel codi arian.

Wrth groesawu’r llysgenhadon newydd, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru, Adam Fletcher:

“Mae’n fraint i mi groesawu ein ‘Saith Seren’ i Ymchwil Canser Cymru ac rwy’n gyffrous iawn i gael cefnogaeth unigolion mor rhyfeddol o ddawnus ac uchel eu cyflawniad i’n helusen.

“Mae gennym lysgenhadon sydd wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad; mae un wedi cyhoeddi cyfrannau cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ac mae dau wedi sefydlu busnesau llwyddiannus ac yn ddyngarwyr brwd.

“Yn y cyfamser, mae gennym ddau o’r darlledwyr mwyaf amlwg ac uchel eu parch yng Nghymru, yn ogystal â myfyriwr meddygaeth ac ymgyrchydd dros newid cymdeithasol sy’n digwydd bod yn Miss World Cymru, hefyd – mae’n ystod ryfeddol ac amrywiol o dalent a phrofiad ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl lysgenhadon.”

Llysgenhadon newydd Ymchwil Canser Cymru

Millie-Mae Adams

Mae Millie-Mae Adams yn Miss World Cymru ac yn fyfyriwr meddygaeth trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerwysg. Ym mis Mawrth 2023, sefydlodd Exeter Street Doctors, sef elusen sy’n grymuso pobl ifanc yn y gymuned â’r offer i achub bywydau a gwrthweithio trais a throseddau â chyllyll.

Jamie Baulch

Mae Jamie Baulch yn adnabyddus nid yn unig am ei lwyddiant ar y trac, ond hefyd am ei fentrau ym myd busnes. Yn dilyn gyrfa ragorol fel enillydd medal arian Olympaidd a Phencampwr y byd mewn gwibio, trodd Jamie ei sylw at entrepreneuriaeth, gan ffurfio BidAid a uWin.

Mari Grug

Mae Mari Grug yn gyflwynydd y rhaglenni dyddiol poblogaidd Heno a Prynhawn Da. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru gan gyflwyno Bore Cothi a phodlediad Cymraeg sy’n trafod canser o’r enw 1 mewn 2. Ym mis Gorffennaf 2023, datgelodd y bu’n cael triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig.

Angela Jay

Mae Angela Jay yn bersonoliaeth hoff gan lawer sydd wedi bod yn deffro Cymru am flynyddoedd lawer ers ei chyfnod ar raglen frecwast Real Radio yn Ne Cymru a Heart y Gogledd-orllewin a Chymru yn Wrecsam. Ar hyn o bryd, mae Angela yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Nation Radio Wales a’r rhaglen canol y bore ar Dragon Radio.

Philippa Tuttiett

Philippa yw wyneb rygbi menywod Cymru. Mae’n ffefryn ymhlith cefnogwyr yn y blwch sylwebu ac yn un o’r pynditiaid benywaidd uchaf ei pharch yn y byd. Mae hi wedi cynrychioli Cymru mewn saith Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2014 yn Ffrainc. Roedd hi hefyd yn gapten Gleision Caerdydd.

Nigel Walker

Mae Nigel Walker yn gyn athletwr a chwaraewr rygbi rhyngwladol a gynrychiolodd Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 1984 ac a gynrychiolodd Gymru ar 17 achlysur ar y cae rygbi. Mae wedi gweithio i’r Swyddfa Gymreig; Cyngor Chwaraeon Cymru; BBC Cymru Wales; Sefydliad Chwaraeon Lloegr; ac Undeb Rygbi Cymru.

Rob Lloyd

Mae Rob Lloyd yn entrepreneur a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Bearmont. Mae’n fasnachwr eiddo a buddsoddwr uchel ei barch sydd â gyrfa hir ym maes datblygu a rheoli eiddo. Derbyniodd wobr Points of Light am wasanaethau i godi arian ac mae’n llysgennad dros Gymru trwy fenter Llunio’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

More

SEE ALL

£19m i ddiogelu sector twristiaeth Gogledd Cymru at y dyfodol 

Cyswllt Ffermio yn chwilio am arweinydd eithriadol i arwain rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth

Môn yn arwain y ffordd wrth fesur defnydd iaith

  • All6397
  • News
    5966
  • Education
    2139
  • Leisure
    1870
  • Language
    1650
  • Arts
    1466
  • Environment
    1021
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    576
  • Agriculture
    518
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Training / Courses
    86
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3