Wythnos bwyd môr Cymru yn dathlu cynhaeaf y môr

October 07, 2024

I chi sy’n caru bwyd môr, paratowch eich hunain i gael eich trît yn ystod Wythnos Bwyd Môr Cymru (14–18 Hydref 2024), wrth i ni ddathlu cynhaeaf y môr!

Bydd gwerthwyr pysgod a manwerthwyr sy’n gwerthu bwyd môr o Gymru yn cynnwys arddangosfeydd arbennig ac yn hyrwyddo #BwydMôrCymru i gwsmeriaid yn eu siopau ac ar-lein. Nod hyn i gyd yw tynnu sylw at safon ac amrywiaeth y dalfeydd o amgylch arfordir Cymru.

Gan ddefnyddio’r hashnodau #BwydMôrCymru #WelshSeafood, bydd pysgotwyr a’r rheini yn y sector bwyd môr ehangach yn annog pobl i chwilio am gynnyrch o Gymru a’i ddathlu.