Rhifyn arbennig o Gogglebocs Dolig

December 07, 2022

Mae S4C wedi cadarnhau comisiwn Gogglebocs Dolig, rhaglen Nadolig arbennig ar gyfer amserlen y Nadolig, sy’n cynnwys rhai o gast poblogaidd Gogglebocs Cymru ynghyd â rhai wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. 

Bydd Gogglebocs Cymru ‘Dolig yn cael ei gynhyrchu gan gwmnïau Chwarel a Cwmni Da a enillodd y tendr yn gynharach eleni i gynhyrchu Gogglebocs Cymru, y fersiwn Gymraeg o fformat poblogaidd Gogglebox o Channel 4 a Studio Lambert.

Yr enwogion a fydd yn rhan o raglen arbennig y Nadolig yw: y cyflwynwyr radio Huw Stephens a Sian Eleri; cyflwynwyr S4C Emma Walford a Trystan Ellis-Morris; Maggi Noggi a'r digrifwr Kiri Pritchard-McLean; y cyflwynydd rygbi Sarra Elgan, dyfarnwr Undeb Rygbi Cymru Nigel Owens a chyn-seren rygbi Cymru Jonathan Davies; Melanie Owen, Mali Ann Rees a Jalisa Andrews sef y cyflwynwyd podeldiad Mel, Mal, Jal; y grŵp roc Adwaith, sydd wedi ennill Gwobr Cerddoriaeth Cymru ddwywaith; y cogydd enwog, Chris ‘Flamebaster’ Roberts a’i fam; a'r actores, y gantores a'r digrifwr Carys Eleri a'i mam.

Mae'r cyflwynydd a'r digrifwr stand-yp, Tudur Owen, yn dychwelyd i leisio'r sioe.

Bydd y ffilmio yn dechrau yn nhrydedd wythnos Rhagfyr ac yn cael ei darlledu ar S4C a BBC iPlayer nos Fercher 28 Rhagfyr am 9.00pm.

Mae ffigurau gwylio Gogglebocs Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr gan ddenu cynulleidfa iau i arlwy‘r sianel.

Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams: “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant Gogglebocs Cymru. Mae ein cast yn prysur ddod yn enwau cyfarwydd. Roedd hi ond yn naturiol i ni benderfynu comisiynu rhaglen Nadolig arbennig gyda phersonoliaethau Cymreig adnabyddus yn ymuno â chast y gyfres gyntaf.”

Bydd penodau wythnosol o Gogglebocs Cymru yn parhau ar ddydd Mercher drwy gydol Ionawr 2023.

More

SEE ALL

Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C

Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera

Anna Bowen i arwain Rhaglen Hŷn 2025

  • All6408
  • News
    5976
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1653
  • Arts
    1468
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    522
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3