Rali Ceredigion yn barod i roi’r sir ar y map
August 16, 2023
Mae Rali Ceredigion yn ddigwyddiad a drefnir yn breifat sy’n creu buddion economaidd i Geredigion, gan ddenu gwylwyr a chystadleuwyr o bell ac agos i fwynhau a threulio amser yn ein sir fendigedig. Dyma ddigwyddiad rhyngwladol sy’n arddangos Ceredigion ar ei orau, ac mae’r trefnwyr yn sicrhau bod yr holl allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’r ceir sy’n cystadlu yn cael eu gwrthbwyso yn gyfrifol, yn ogystal ag arloesi nifer o fentrau amgylcheddol.
Eleni, bydd y rali yn dechrau yn Aberystwyth, ac yn cynnwys cymalau cystadleuol yn ardaloedd y Borth, Cwmerfyn, Cwmystwyth, Llanafan, Clywedog, Nant y Moch ac Aberystwyth.
Mae trigolion sy’n byw ar hyd y llwybrau cystadleuol hyn wedi cael eu hysbysu trwy lythyr ac wedi bod yn rhan broses ymgynghori ac ymgysylltu helaeth yn amlinellu’r hyn sydd i'w ddisgwyl yn ystod y digwyddiad. Gellir gweld y rhestr lawn o’r ffyrdd fydd ar gau, gan gynnwys y mapiau, ar dudalen We ‘Ffyrdd y bwriedir eu cau yng Ngheredigion’: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/gwaith-ffordd/caur-ffyrdd/
‘Buddion economaidd’ i Geredigion
Yn 2022, nododd y sector lletygarwch gyfraddau defnydd sylweddol dros benwythnos y digwyddiad, a sicrhaodd y sylw ar y cyfryngau cymdeithasol bod ein adnoddau naturiol yn cael eu rhoi ar y map, sydd wedi bod o fudd i'r sector twristiaeth ehangach.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi sicrhau Achrediad Amgylcheddol FIA ac yn awyddus i arddangos technolegau newydd yn y gamp. Mae’r rhain i gyd yn flaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu cystadleuwyr a gwylwyr i ddigwyddiad Rali Ceredigion eto eleni. Bydd digwyddiad ralïo 2023 yn adeiladu ar lwyddiant ysgubol y digwyddiad y llynedd, a ddenodd y gorau o dimau Prydain ynghyd â chriwiau rhyngwladol i'n sir ragorol. Mae’r digwyddiad yn parhau i ddod â buddion economaidd i'r economïau twristiaeth a lletygarwch lleol yng Ngheredigion gyda nifer o fusnesau’r sir yn cyflogi gweithwyr yn y diwydiant hwn.
“Mae’r trefnwyr wedi ymrwymo’n llwyr i gyflwyno mesurau newydd i leihau effeithiau amgylcheddol y digwyddiad, ac ar hyn o bryd dyma’r unig ddigwyddiad ralïo yn y DU sy’n rhedeg i achrediad Rheolaeth Amgylcheddol FIA. Hoffem i bawb sy’n cymryd rhan, o’r cystadleuwyr i'r stiwardiaid, swyddogion a’r gwylwyr fwynhau mewn modd diogel a chyfrifol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i dudalen Facebook Rali Ceredigion: Rali Ceredigion | Facebook
- All6424
-
News
5991
-
Education
2141
-
Leisure
1870
-
Language
1656
-
Arts
1469
-
Environment
1026
-
Politics
932
-
Health
694
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
580
-
Agriculture
523
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3