Prif hyfforddwr merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymuno a UAC

July 23, 2024

Rhian Wilkinson
Beth sydd gan bêl-droed a ffermio yn gyffredin yma yng Nghymru? Mae'r ddau wedi gwreiddio yn y tir, maent yng ngwead cymunedau gwledig ac mae'r ddau yn gosod merched ar y blaen ym myd chwaraeon ac amaethyddiaeth yn yr 21ain Ganrif.

Mewn digwyddiad arbennig ym mhafiliwn UAC ar Faes y Sioe'r wythnos hon [2yp, dydd Mawrth 23 Gorffennaf] mae rheolwr Tîm Cenedlaethol Merched Cymru, Rhian Wilkinson yn ymuno â Swyddog Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru, Danielle Walker sy’n chwaraewraig ddawnus i Glwb Pêl-droed Aberriw. Bydd y ddadl yn cael ei chadeirio gan Caryl Roberts, Rheolwr Datblygu Busnes Grŵp UAC i drafod sut mae agwedd y byd chwaraeon ac amaethyddiaeth tuag at fenywod wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.

Cymrodd Rhian Wilkinson y swydd o reoli Cymru nôl ym mis Chwefror eleni, ac mae hi ei hun wedi cael gyrfa broffesiynol lwyddiannus fel chwaraewr a hyfforddwr yng Nghanada a’r Unol Daleithiau.

Mae gan Rhian gysylltiadau Cymreig, gan fod ei mham yn dod o Gymru tra threuliodd Rhian ran o’i phlentyndod yn Ne Cymru. Bu ei mam yn gwthio am bolisi chwaraeon mwy cynhwysol mewn ysgol gynradd yn y Bontfaen 25 mlynedd yn ôl, gan nad oedd pêl-droed ar gael i ferched ar y pryd. Yn fodel rôl i Rhian, sydd bellach yn llysgennad dros chwaraewyr ifanc benywaidd, edrychwn ymlaen at glywed mwy am yrfa Rhian, ei phrofiadau yn y Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd.

Mae Danielle Mills, un o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Aberriw, yn ei theimlo hi'n anrhydedd i eistedd gyda phrif hyfforddwr Tîm Pȇl Droed Merched Cymru yn y digwyddiad hwn. Yn Swyddog Yswiriant i UAC yn Sir Drefaldwyn, mae Danielle yn rhannu ei phrofiad o chwarae pêl-droed ȃ’i gwaith yn y diwydiant amaeth mewn ardal wledig. Mae hefyd yn cynnig cipolwg ar sut mae’r ddau ddiwydiant wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf gan roi mwy  mwy o gyfleoedd i fenywod.

Dywedodd Rhian Wilkinson: “Rwy’n falch iawn o fynychu digwyddiad Undeb Amaethwyr Cymru ar faes faes y Sioe Fawr yr wythnos hon. Rwyf wedi bod i’r sioe sawl gwaith yn y gorffennol ac rwy’n falch iawn o hanes ffermio Cymreig fy nheulu.

"Rwy’n awyddus i drafod strategaeth Cymdeithas Bel Droed Cymru wrth gydnabod pwysigrwydd pêl-droed ar lawr gwlad a’r buddsoddiad rydym yn edrych arno mewn cyfleusterau ac adnoddau i gefnogi clybiau i dyfu a datblygu.

“Rydyn ni’n gwybod y gall hyn wneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau, a llawer ohonynt y clwb pêl-droed yw’r unig ased cymunedol sydd ar ôl. Gall pêl-droed ddod â’r gymuned ynghyd, mae’n rhoi ymdeimlad o berthyn, yn debyg i’r gymuned ffermio. Gall y ddau helpu i wella iechyd a lles meddwl pobl tra hefyd yn cyfrannu at Gymru wledig fywiog a chynaliadwy.

“Mae pêl-droed a ffermio ill dau yn edafedd hanfodol yng ngwead y gymdeithas Gymreig. Mae pob un yn cyfrannu llawer iawn at gymunedau lleol, yr economi, yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth. Mae’r ddau hefyd yn rhan o’r darlun cenedlaethol ac yn rhoi Cymru yn gadarn ar lwyfan y byd.”

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3