Penodiad Carys Gwyn i arwain adran newydd Mudiad Meithrin
March 31, 2025
Bydd Carys yn cychwyn ar ei rôl newydd ym mis Ebrill ac yn ymuno â Thîm Strategol y Mudiad. Mae ganddi gysylltiad hir â’r mudiad, ers iddi ddechrau fel Swyddog Cefnogi yn Sir y Fflint yn 2004. Yn fuan wedyn, cafodd ei dyrchafu’n Gydlynydd y Gogledd-ddwyrain, wedyn yn Gyfarwyddwr ar draws y Gogledd, ac ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth.
Dywedodd Carys Gwyn:
“Mae cael arwain ar adran a fydd yn dwyn popeth sydd yn ymwneud â chaffael, trosglwyddo a throchi iaith at ei gilydd o fewn y Mudiad trwy amryw gynlluniau yn gyfle cyffrous iawn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â nifer o bartneriaethau hen a newydd i gefnogi’r gweithlu, y gwirfoddolwyr a theuluoedd ar eu taith iaith.”
Diben y swydd yw arwain ar adran newydd fydd yn uno sawl cynllun hyfforddiant iaith strategol gan gynnwys Croesi’r Bont, Clebran, Clwb Cwtsh, ac Camau. Bydd yr adran yn canolbwyntio ar ddatblygu a chefnogi sgiliau ieithyddol gweithlu'r sector gofal plant a theuluoedd ledled Cymru.
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae Carys yn dod â blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth i arwain yr adran newydd hon. Bydd hyn yn ein galluogi i dyfu’n dylanwad ym maes cynllunio ieithyddol ac ymateb i anghenion y gweithlu gofal plant, ysgolion a theuluoedd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â hi.”
- All6408
-
News
5976
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1653
-
Arts
1468
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
522
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3