Partneriaeth i greu llwybr newydd er mwyn cyfuno rygbi â gwaith academaidd

June 08, 2023

Mae partneriaeth strategol newydd wedi’i chreu rhwng Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri a Chlwb Rygbi Llanymddyfri i ddarparu llwybr i fyfyrwyr gyfuno eu huchelgeisiau academaidd a rygbi trwy Addysg Bellach, Uwch a rygbi lled-broffesiynol.

Mae pob un o’r tri sefydliad eisoes wedi cydweithio ar fentrau academaidd a chwaraeon allweddol ac mae’r bartneriaeth hon yn cryfhau eu perthynas ymhellach. 

Mae’r dysgwr yn ganolog i Grŵp Y Drindod Dewi Sant, ac mae ei ymrwymiad i ddarparu profiad dysgu ardderchog yn greiddiol i’w weithgareddau. 

Bwriad pob un o’r tri sefydliad yw cefnogi myfyrwyr sy’n ymwneud â rygbi perfformiad uchel wrth iddynt astudio.  

Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at hyfforddiant rygbi ar lefel broffesiynol a hyfforddiant cryfder a chyflyru, yn ogystal â chyngor ar faeth, deiet a ffordd o fyw.

Bydd gan y myfyrwyr amrywiaeth o ddewisiadau academaidd yn ogystal â chael chwarae yng Nghynghrair Colegau/Ysgolion Dan 18 URC tra byddant yng Ngholeg Llanymddyfri. Mae hyn hefyd yn wir pan fyddant yn symud i’r Drindod Dewi Sant ar gyfer eu Haddysg Uwch a chwarae yn strwythur Cynghrair / Cwpan Undeb Rygbi BUCS.

Ochr yn ochr â hyn, cânt eu cefnogi gan Glwb Rygbi Llanymddyfri sydd â llwybrau i’w dimau ar lefel Dan 18 a’i dîm Lled-Broffesiynol.

Meddai Lee Tregoning, pennaeth Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn wastad yn ceisio gwella’r cysylltiadau rhwng addysg bellach ac uwch i greu llwybrau unigryw fel hwn ar gyfer rhagoriaeth academaidd a pherfformiad uchel mewn rygbi a fydd o fudd i’n dysgwyr.

“Rydym yn croesawu’r cyfleoedd y mae hyn yn ei greu ar gyfer mwy o aliniad rhwng y tri sefydliad. Ein nod yw datblygu a gwella ein partneriaeth ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd addysg bellach, uwch a rygbi Lled-broffesiynol i’n dysgwyr yn y byd academaidd a rygbi.”

Meddai Gareth Potter, pennaeth rygbi yn Y Drindod Dewi Sant: 

“Bydd y gwasanaethau a ddarperir gan bob parti yn rhoi llwybr pum mlynedd i fyfyriwr nodweddiadol lle gall hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf mewn chwaraeon coleg, prifysgol a rygbi lled-broffesiynol wrth gyflawni ei nodau academaidd ar yr un pryd.”

Ychwanegodd Dominic Findlay, Warden Coleg Llanymddyfri: 

“Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â Chlwb Rygbi Llanymddyfri a’r Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth gyffrous iawn sy’n rhoi cyfle i’n chwaraewyr Rygbi ifanc talentog ac uchelgeisiol hyfforddi a chwarae i dîm blaenllaw yn Uwch Gynghrair Cymru wrth gyfuno eu cyrsiau addysg Bellach.

“Mae’r Coleg hwn wedi gweithio’n llwyddiannus â’r ddau sefydliad dros nifer o flynyddoedd a bydd y bartneriaeth hon yn cyflwyno hyd yn oed yn fwy o fuddion i’n disgyblion. Mae gweithio i gadw bechgyn a merched peniog sy’n gymwys i chwarae dros Gymru yng Nghymru a’r ardal yn hynod bwysig wrth i URC a’r Rhanbarthau weithio drwy’r nifer o heriau y maen nhw’n eu hwynebu. Talent ifanc Cymru yw’r dyfodol, a bydd y bartneriaeth hon yn helpu i greu llwybr arall eto iddynt yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.” 

Meddai Peter Rees, Cadeirydd Clwb Rygbi Llanymddyfri: 

“Mae’r Porthmyn wedi elwa ar berthynas waith ardderchog â Choleg Llanymddyfri erioed ac rydym nawr yn falch iawn o ehangu ein partneriaeth i gynnwys Y Drindod Dewi Sant.

“Mae’r Uwch Gynghrair yng Nghymru yn rhan bwysig iawn o’r llwybr at rygbi proffesiynol ond gall fod yn yrfa heriol felly mae’n bwysig iawn y gallwn ddarparu pob cyfle i’n chwaraewyr ddatblygu eu gyrfa academaidd yn gyfochrog â chwarae ac, yn yr un modd, rydym am roi cyfle i fyfyrwyr dawnus yn y Coleg a’r Brifysgol gychwyn eu gyrfa rygbi proffesiynol ar lefel uchaf rygbi clwb yng Nghymru. Credwn mai hon yw un o’r perthnasoedd cyntaf o’r fath sydd wedi’i llunio o gwmpas clwb Lled-Broffesiynol Cymraeg ac mae’n dangos y pwyslais mawr a roddwn ar bob agwedd ar ddatblygiad chwaraewyr yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri.”

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3