Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera
May 12, 2025
Mae Owen Davies, sy’n wreiddiol o Abertawe ond bellach yn byw yn Llundain, yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Ystalyfera. Owen yw sylfaenydd a Chadeirydd Enthuse Holdings Ltd, busnes blaenllaw sy’n arbenigo yn y cyfryngau ar gyfer defnyddwyr a busnesau (B2B) ac sy’n gweithredu yn y DU ac UDA. Mae’n entrepreneur ac yn arweinydd busnes uchel ei barch, ac yn 2019 fe gafodd ei enwi’n un o 50 entrepreneur gorau’r DU. Daw ei brofiad helaeth yn y maes corfforaethol o ddal swyddi yn Unilever plc, Bass plc, a DMGT plc. Mae Owen yn frwd dros gyfrannu at ecosystem fusnes Cymru ac mae’n awyddus i gefnogi cyfeiriad strategol Mentera.
Yn ôl Owen: “A minnau wedi cael fy ngeni a’m haddysgu yng Nghymru, dwi’n awyddus iawn i gyfrannu at dwf a datblygiad busnesau Cymru. Mae ymroddiad Mentera i rymuso’r mentrau hyn yn apelio’n fawr ata i, a dwi’n awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad i gefnogi cyfeiriad strategol y cwmni.”
Mae Emily Rees yn byw yng Nghricieth ac mae wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers tair blynedd. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Swyddog Ariannol (CFO) Cyberfort Group Limited. Daw Emily â chryn dipyn o arbenigedd ym meysydd cyllid, adnoddau dynol, a llywodraethiant corfforaethol, a gafwyd trwy ei phrofiad o weithio i amrywiol sefydliadau mawr a bach, gan gynnwys ECCO Shoes, Pizza Express, a Tesco. Yn fwyaf diweddar, hi oedd Prif Swyddog Ariannol Quartix Technologies plc, busnes sydd wedi’i restru ar AIM ers 3 blynedd ac sydd â’i bencadlys gweithredol yn y Drenewydd. Bydd set sgiliau amrywiol Emily yn ased gwerthfawr i Fwrdd Mentera.
Yn ôl Emily Rees: “Ers symud i Gymru, dwi wedi cael fy ysbrydoli gan weledigaeth Mentera i greu newid cadarnhaol yng nghymunedau Cymru a’r dirwedd fusnes. Dwi’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy arbenigedd ariannol ac ym maes llywodraethiant i gyfrannu at nodau uchelgeisiol y cwmni a chefnogi llwyddiant mentrau sy’n cael eu harwain gan bwrpas ledled Cymru.”
Yn ôl Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera: “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Owen ac Emily i Fwrdd Mentera. Bydd eu henw da a’u harbenigedd amrywiol yn amhrisiadwy wrth gyfoethogi ein meddwl strategol ac wrth iddyn nhw gynnig safbwyntiau ffres. Bydd ysbryd entrepreneuraidd Owen a’i ddealltwriaeth o’r amgylchedd busnes ehangach, ochr yn ochr ag arbenigedd ariannol Emily a’i phwyslais ar lywodraethiant cadarn, yn asedau allweddol wrth i ni gyflawni ein gweledigaeth o gefnogi busnesau Cymru i ffynnu.”
Ychwanegodd Fflur Jones, Cadeirydd Mentera: “Yn dilyn proses recriwtio drylwyr a llwyddiannus, rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael unigolion o safon mor uchel i ymuno â’n Bwrdd. Daw Owen ac Emily ill dau ag ymrwymiad go iawn i Gymru ac angerdd dros feithrin llwyddiant busnes. Bydd eu dealltwriaeth a’u harweiniad yn hanfodol wrth i Mentera barhau i rymuso entrepreneuriaid a busnesau Cymru, gan gryfhau sylfeini ein heconomi a chyfrannu at ddyfodol mwy llewyrchus i’r wlad.
- All6420
-
News
5987
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1654
-
Arts
1468
-
Environment
1025
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
580
-
Agriculture
522
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3