Myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant i gynrychioli Cymru yn y Trail De Guerledan
May 23, 2023
Dyma fydd cyfle cyntaf swyddogol Ollie George o Sir Benfro i gynrychioli Cymru. Mae’r Ras yn cael ei hadnabod fel y Trail De Guerledan, sy’n cynnal Pencampwriaethau Rhedeg Llwybrau Ewrop. Mae’n cwmpasu pellter o 26KM yng nghadwyn mynyddoedd/llwybrau Llydaw.
Meddai Ollie: “I mi mae cystadlu mewn ras o safon uchel fel hon, a chystadlu dramor, yn brofiad rhyfeddol a gwefreiddiol ac yn anrhydedd.”
Cafodd ei ddewis wedi iddo ddod yn ail ym Mhencampwriaethau Rhedeg Llwybrau Cymru ym Mhontarfynach ger Aberystwyth ym mis Ebrill.
Mae Ollie bob amser wedi bod yn angerddol am redeg ers pan oedd yn blentyn, a gan ei fod yn dod o gefndir ffermio, roedd wedi arfer rhedeg ar ôl buches wartheg y teulu.
Meddai: “Yn bersonol, roeddwn i wastad eisiau bod yn rhedwr proffesiynol o oedran ifanc, ac roeddwn yn benderfynol o wneud hynny trwy weithio’n galed, hyfforddi a llwyddo mewn rasys.”
Mae Ollie ar hyn o bryd yn fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf yn y Drindod Dewi Sant a phenderfynodd astudio yn y Brifysgol am ei fod eisiau datblygu ei dechneg rhedeg. Mae wedi cael cyfle i gystadlu gyda’r Brifysgol eleni hefyd ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ym Mhen-bre.
Dywedodd fod y cwrs wedi’i helpu i ddatblygu ei yrfa fel athletwr.
“Mae Geraint Forster, fy narlithydd, wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i mi i gynorthwyo gyda’m gyrfa rhedeg, gan gynnwys rhoi Prawf VO2 Max i mi,” ychwanegodd.
Meddai’r darlithydd Geraint Forster: “Mae’n wych bod y Brifysgol wedi gallu cefnogi Ollie gyda’i weithgareddau chwaraeon ochr yn ochr â’i astudiaethau. Fel aelod o’r Academi Chwaraeon Unigol, mae Ollie’n derbyn cefnogaeth gan gynnwys sesiynau trac, sesiynau cryfder a chyflyru a chlinigau therapi chwaraeon.
“Mae Ollie hefyd wedi cynrychioli’r Brifysgol eleni ym mhencampwriaethau traws gwlad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), gan wneud yn wych a gorffen fel yr athletwr mwyaf llwyddiannus o’r Drindod Dewi Sant mewn ras gystadleuol iawn. Hoffem ddymuno’n dda i Ollie yn ei ras ryngwladol gyntaf.”
Wrth i Ollie edrych ymlaen at gystadlu yn y Trail de Guerledan, byddai hefyd yn hoffi parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu ei yrfa rhedeg yn broffesiynol.
- All6424
-
News
5991
-
Education
2141
-
Leisure
1870
-
Language
1656
-
Arts
1469
-
Environment
1026
-
Politics
932
-
Health
694
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
580
-
Agriculture
523
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3