Môn yn arwain y ffordd wrth fesur defnydd iaith
March 06, 2025
Yn ôl cyfrifiad 2021, roedd gostyngiad o 1.5% yn y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg ar Ynys Môn. Er nad yw’r canlyniadau yma’n annisgwyl, nid ydynt yn cynnig darlun llawn o ddefnydd gymunedol yr iaith.
Eglurodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd-Orllewin ac aelod o Fwrdd Menter Môn: “Fel Menter Iaith, mae’n bwysig ein bod yn cynllunio ieithyddol. Mae data’r cyfrifiad yn ein cyrraedd bob degawd, felly mae’r bwlch amser yn ei gwneud hi’n anodd i gynyddu defnydd ar lawr gwlad heb y gallu i fesur llwyddiant yr ymyraethau.”
Gyda chefnogaeth Soziolinguistika Klusterra, canolfan ymchwil o Wlad y Basg, cynhaliwyd cynllun peilot ar Ynys Môn ym mis Mawrth 2024. Mabwysiadwyd methodoleg i fesur defnydd iaith pobl oedd yn cyfathrebu ar y stryd yn Llangefni a Porthaethwy. Casglwyd y data gan ymchwilwyr, ac fe’i gofnodwyd ar ap pwrpasol. Mae’r ap bellach wedi ei gyfieithu o’r iaith Fasgeg i Gymraeg.
Prif ganfyddiadau’r peilot oedd bod defnydd y Gymraeg yn sylweddol is na lefel gallu’r boblogaeth leol, yn ôl ffigurau cyfrifiad 2021. Mae hyn yn batrwm cyffredin mewn sefyllfaoedd ieithyddol o’r fath. Mae canran poblogaeth Llangefni sy’n medru’r Gymraeg (Cyfrifiad 2021) yn 75% ond roedd lefel y defnydd a glywyd yn 54%. Ym Mhorthaethwy, mae’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn 52%, ond roedd y defnydd a glywyd yn 20%.
Mae’r ymchwil yn cynnig dadansoddiad yn ôl oed a rhywedd hefyd, a gwelwyd bod canran uwch o ddynion yn defnyddio’r Gymraeg o’i gymharu â merched. O ran grwpiau oedran, roedd patrwm cyson yn y ddwy dref, sef bod y defnydd uchaf ymysg plant ifanc, ond ar ei isaf yn y grŵp 15-24 mlwydd oed.
Mewn ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn a chyn Gomisiynydd gyda’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg: “Nodwyd yn adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg fod dwysedd siaradwyr Cymraeg yn allweddol bwysig o safbwynt defnydd iaith ar lefel gymunedol. Gyda canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn Llangefni, mae’n amlwg yn ddewis cyntaf naturiol i’r mwyafrif. Ym Mhorthaethwy ar y llaw arall, mae tueddiad i gychwyn sgyrsiau yn Saesneg gan fod llai o siaradwyr Cymraeg yno beth bynnag.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Er mai dim ond saith milltir sy’n gwahanu’r ddwy dref, mae’r bwlch o ran defnydd iaith gymunedol yn sylweddol. Yr her ydi ceisio arafu a gwyrdroi y shifft ieithyddol sy’n digwydd yn ein cymunedau.”
Mae Menter Môn bellach yn cynllunio at sicrhau ymrwymiad rheolaidd i gynnal yr ymchwil hwn, a pharatoi at fesur mewn ardaloedd eraill ar yr Ynys ym mis Mawrth 2025. Mae’r cwmni am geisio sicrhau cefnogaeth ariannol i fedru cyflawni hyn, yn ogystal â cheisio annog a chefnogi siroedd eraill i fabwysiadu’r model hwn o fesur gwir defnydd o’r Gymraeg.
- All6403
-
News
5971
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1652
-
Arts
1467
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
519
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
88
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3