Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am aelodau bwrdd annibynnol
September 13, 2024
Meddai Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Mentrau Iaith Cymru:
“Pwrpas Mentrau Iaith Cymru yw cefnogi gwaith y Mentrau Iaith i greu cyfleoedd i gymunedau Cymraeg ffynnu ym mhob cwr o Gymru. Rydyn ni am elwa o arbenigedd a phrofiadau aelodau annibynnol ac yn gyffrous i weithio mewn ffordd newydd, mwy atebol."
Mae 5 lle ar Fwrdd Cyfarwyddwyr newydd Mentrau Iaith Cymru. Rydym yn awyddus bod un o'r aelodau yn berson ifanc 19 - 25 oed, ac rydym yn arbennig yn awyddus i recriwtio unigolion sydd â phrofiad neu arbenigedd mewn:
- Cydraddoldeb a chynhwysiant
- Cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
- Cynllunio ieithyddol a chymunedol
- Denu nawdd
Bydd y Bwrdd yn cwrdd 4 gwaith y flwyddyn a bydd aelodau'r Bwrdd yn cynorthwyo'r cyfarwyddwyr gweithredol i roi cyfeiriad strategol i waith Mentrau Iaith Cymru ac i eirioli dros y mudiad wrth iddyn nhw gefnogi gwaith y 22 Menter Iaith ar draws Cymru.
Dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr yw 18 Hydref am hanner dydd
Mae ffurflen gais ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru https://mentrauiaith.cymru/ mentrau-iaith-cymru-yn-chwilio-am-aelodau-bwrdd-annibynnol/
Am ragor o fanylion cysylltwch â post@mentrauiaith.cymru
- All6368
-
News
5938
-
Education
2133
-
Leisure
1868
-
Language
1642
-
Arts
1462
-
Environment
1016
-
Politics
932
-
Health
689
-
Literature
646
-
Music
605
-
Money and Business
568
-
Agriculture
512
-
Food
455
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
285
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Training / Courses
83
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3