Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

April 07, 2025

Hoffech chi gael profiad gwaith â thâl yn ystod Haf 2025? Mae yna gyfle i chi ddysgu ac ennill profiad o fewn y diwydiant amaeth wrth weithio ar un o brosiectau Mentera, sef Cyswllt Ffermio.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Mentera, un o gwmnioedd datblygu economaidd mwyaf blaenllaw Cymru, yn cynnig cyfle i ddau berson ifanc ymgymryd ag interniaeth 'ymarferol' â thâl yn gweithio o fewn y diwydiant amaeth trwy ei gynllun interniaeth, 'Cyfle'. 

Esboniodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera, “mae’r  cynllun hwn yn rhoi amrywiaeth o brofiadau perthnasol i ddau berson ifanc sy'n gadael yr ysgol, coleg neu brifysgol a fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddarganfod pa feysydd y maent yn ymddiddori ynddynt fwyaf a chynnig cam gwerthfawr i helpu i roi cychwyn da i'w rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Dywedodd Carys Evans, un o interniaid Cyfle 2024:

“Roedd y cyfleoedd a gefais wrth fod yn rhan o Cyfle yn amhrisiadwy. Yn sicr, roedd y profiadau wedi fy helpu i benderfynnu fy mod am weithio o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. 

Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â ffermydd ar hyd a lled Cymru yn gwneud gwaith ymarferol. Yn ogystal, roedd cael y profiad o fod yn rhan o dîm gweithgar yn un positif, fe wnes i fwynhau pob eiliad.” 

Ychwanegodd Eirwen Williams: “Mae’n gynnig sy’n galluogi unigolion i ymgysylltu'n uniongyrchol â ffermwyr drwy ymweld â busnesau gwledig, digwyddiadau amaethyddol, sioeau neu farchnadoedd da byw, mae 'Cyfle' yn cynnig cyfle unigryw i gysgodi a dysgu gan aelodau profiadol ein tîm.”

Ychwanegodd Gwennan Owen, un o Interniaid Cyfle 2023: 

“Wedi graddio o Aberystwyth, bu interniaeth Mentera gyda Cyswllt Ffermio yn drawsnewidiol. Cynigiodd gyfleoedd amhrisiadwy yn y sector amaethyddol, gan ddarparu gwybodaeth ddofn o'r diwydiant a chysylltiadau proffesiynol hanfodol. Cyfrannodd y profiad hwn yn uniongyrchol at fy llwyddiant yn fy rôl bresennol gyda’r cwmni. Rwy'n argymell yr interniaeth hon yn fawr i unrhyw un sy'n angerddol am amaethyddiaeth - gall siapio'ch llwybr gyrfa yn sylweddol.”  

Gyda 200 awr o waith ar gael i'r ddau interniaid, gyda thâl o £12.30 yr awr, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i unrhyw fyfyriwr ysgol neu goleg/prifysgol y mae'n rhaid iddynt fod wedi cwblhau addysg amser llawn erbyn Haf 2025. Rhaid i'r interniaeth ddigwydd rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2025 a/neu fis Medi a mis Hydref 2025.

“Yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr yn gallu teithio i un neu fwy o swyddfeydd Mentera sydd yn Ynys Môn, Llanrwst, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd, ond gallai fod cyfleoedd hefyd i gysgodi a gweithio ochr yn ochr â staff rhanbarthol mewn rhannau eraill o Gymru.

“Ar yr amod nad ydych eisoes wedi trefnu i ymgymryd â gwaith cyflogedig, gallai 'Cyfle' ddarparu cyfle gwych i chi ennill profiad cyflogedig perthnasol, gan ychwanegu'r elfen hollbwysig honno at eich CV,” meddai Eirwen Williams. 

Bydd y ddau ymgeisydd llwyddiannus yn cael mentor Mentera dynodedig yr un a byddant yn cael cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) penodol.  Byddant hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd Mentera a chael cyngor ar ddatblygu gyrfa a thechnegau cyfweliad. 

I wneud cais am yr interniaeth, ewch i mentera.cymru/cyfle neu am ragor o wybodaeth e-bostiwch sian.tandy@mentera.cymru neu ffoniwch 07932 610 697.

Mae’r ceisiadau’n cau ar 25.04.2025.

More

SEE ALL

Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C

Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera

Anna Bowen i arwain Rhaglen Hŷn 2025

  • All6408
  • News
    5976
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1653
  • Arts
    1468
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    522
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3