Mentera yn arddangos ymrwymiad i amaeth Cymru yn y Ffair Aeaf

November 21, 2024

Bydd Mentera, cwmni nid-er-elw blaenllaw sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru, yn dangos ei gefnogaeth i'r sector gwledig yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru (25 – 26 Tachwedd 2024). Trwy arddangos y rhaglenni amrywiol y mae'n eu rhedeg ar ran Llywodraeth Cymru, bydd Mentera yn cynnig adnoddau gwerthfawr, digwyddiadau diddorol, a llwyfan i fusnesau bwyd a diod newydd ddisgleirio.

Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera: "Mae Mentera wedi ymrwymo'n ddwfn i rymuso busnesau Cymru i gyrraedd eu llawn botensial, a’r sectorau amaeth a bwyd a diod yw conglfeini ein heconomi wledig. Mae ein presenoldeb yn y Ffair Aeaf yn adlewyrchu ein hymroddiad i roi'r offer a'r cymorth sydd eu hangen ar ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i ffynnu."

Dyma rai o raglenni Mentera a fydd yn bresennol yn y digwyddiad:

Cyswllt Ffermio: Bydd gan Cyswllt Ffermio stondin ar y balconi uwchben cylch y gwartheg. Bydd yn cynnal derbyniad Academi Amaeth ddydd Llun, 25 Tachwedd am 10:30am, a derbyniad 'Ein Ffermydd' ar yr un diwrnod am 12:30pm (trwy wahoddiad yn unig).

Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: Bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) yn lansio'r ail lyfr yn ei chyfres Diolch Byth am Bobddydd Mawrth, 26 Tachwedd am 10:30am. Nod y digwyddiad hwn yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn diogelwch fferm trwy’r cymeriad hwyliog ac addysgol, Bob y Ci Defaid. Drwy dargedu plant, mae WFSP yn gobeithio dylanwadu ar ffermwyr y dyfodol a hyrwyddo arferion mwy diogel ar ffermydd Cymru.

Cywain: Bydd dyfodol bwyd a diod Cymru yn cael ei arddangos drwy stondinau prawf fasnachu yn y Neuadd Fwyd sy'n cynnwys y busnesau newydd gorau.

Arwain DGC: Gall ymwelwyr sgwrsio â chynrychiolwyr Arwain DGC ar y balconi uwchben cylch y gwartheg i gael cyngor ac arweiniad arbenigol ar leihau’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd yn y sector amaethyddol.

Sgiliau Bwyd a Diod Cymru: Bydd y rhaglen hon yn lansio pecyn addysgol newydd 'Gwledd o Gyfleoedd | Food Futures’ ar stondin Hybu Cig Cymru ddydd Llun am 11am.
 
Yn ôl Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera sydd hefyd yn gyfrifol am bortffolio gwledig y cwmni: "Rydyn ni’n edrych ymlaen at sgwrsio â ffermwyr a busnesau bwyd yn y Ffair Aeaf. Mae Mentera yn falch o helpu twf y busnesau sy’n cynhyrchu bwyd lleol. Trwy fuddsoddi yn ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd, rydyn ni’n buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau. Mae ein cymorth yn helpu i gryfhau economïau gwledig, creu swyddi, a sicrhau cyflenwad bwyd cynaliadwy am genedlaethau i ddod."

Ychwanegodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera: "Mae ein presenoldeb yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn tanlinellu ein hymrwymiad diwyro i gefnogi economi wledig Cymru. Trwy gynnig adnoddau gwerthfawr a meithrin cysylltiadau, rydyn ni’n chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru wledig ac economi ehangach Cymru."

More

SEE ALL

Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C

Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera

Anna Bowen i arwain Rhaglen Hŷn 2025

  • All6408
  • News
    5976
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1653
  • Arts
    1468
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    522
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3