Menter a Busnes yn datgelu brand a gweledigaeth newydd

July 02, 2024

Mentera
Mae Menter a Busnes, sydd wedi bod yn cefnogi busnesau ac unigolion yng Nghymru i sefydlu a thyfu ers mwy na thri degawd, wedi datgelu ei frand a’i strategaeth newydd i helpu busnesau Cymru i gyrraedd llwyfan fyd-eang.

O dan enw newydd uchelgeisiol, datgelodd – Mentera – ei wedd a’i gynllun strategol newydd i bartneriaid allweddol, swyddogion y Llywodraeth ac arweinwyr diwydiant yng Ngwinllan Llanerch – enghraifft o fusnes yng Nghymru sydd wedi arallgyfeirio o dir fferm i ddod yn winllan a gydnabyddir yn rhyngwladol.  

 

Wrth i’r cwmni ddathlu ei ben-blwydd yn 35 oed, bydd Mentera (a elwid gynt yn Menter a Busnes) a’i 170 o staff sy’n gweithio ledled Cymru, yn parhau i ddarparu buddsoddiad a chefnogaeth ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth a bwyd a diod, drwy gyfrwng ei weledigaeth, ‘O’r Fro i’r Byd’.
 
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera: “Mae gan Gymru gyfoeth o dalent, arloesedd a chynnyrch unigryw sy’n haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol. Trwy ein hymagwedd newydd feiddgar, rydym wedi ymrwymo i drawsnewid mentrau lleol yn straeon llwyddiant ar y llwyfan ryngwladol.

Mentera
“Rydym yn credu ym mhotensial a phŵer busnesau Cymru i gystadlu a ffynnu yn y farchnad fyd-eang. Mae’r ailfrandio hwn yn arwydd o’n hymroddiad diwyro i feithrin eu datblygiad a gwireddu’r weledigaeth hon – a hyn oll wrth gyfrannu at economi lewyrchus yng Nghymru heddiw, ac am genedlaethau i ddod.”
 
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Mentera, Fflur Jones: “Ers sefydlu'r cwmni am y tro cyntaf ym 1989, rydym yn falch o fod wedi cefnogi miloedd o fusnesau ac wedi chwarae rhan bwysig yn hwyluso twf economaidd ledled Cymru.
 
“Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein bod yn ehangu ein gweithrediadau trwy agor tair swyddfa newydd, o dan arweiniad ein Prif Weithredwr newydd ar y pryd. Fis diwethaf, fe wnaethom gryfhau ein Bwrdd gyda phedwar penodiad strategol newydd. A heddiw, rydym yn dathlu ein brand newydd, ac yn bwysicach fyth, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae Mentera a’i dîm o 170 o staff yn fwy uchelgeisiol nag erioed ac edrychwn ymlaen at barhau i rymuso arloesedd ledled Cymru am 35 mlynedd arall a mwy.”
 
Un busnes yng Nghymru sydd wedi elwa o gefnogaeth Mentera yw'r brand diodydd meddal, Radnor Hills, a dderbyniodd arian grant a chymorth datblygu sgiliau. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata’r cwmni, Chris Sanders: “Mae cefnogaeth Mentera – yn arbennig y mentora a ddarperir trwy Raglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru – wedi helpu i sicrhau twf sylweddol. Yn dyst i arbenigedd a safon uchel y gefnogaeth a ddarperir trwy’r cynllun, mae ein hymgynghorydd wedi’i benodi’n ddiweddar yn Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.”
 
I ddarganfod rhagor am Mentera a sut gallech chi neu eich busnes elwa, ewch i mentera.cymru.

More

SEE ALL

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • All6403
  • News
    5971
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1652
  • Arts
    1467
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    519
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    88
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3