Mali Elwy yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025

May 30, 2025

Datgelwyd heddiw (dydd Gwener, 30 Mai) ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025 mai Mali Elwy (yn wreiddiol o Tan-y-Fron ger Llansannan) sydd wedi’i choroni fel Prif Lenor yr Ŵyl.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Catrin Morris o Lanberis, ac Elain Roberts (enillydd y Gadair ddoe) o Bentre’r Bryn oedd yn drydydd. Noddwyd y seremoni gan Brifysgol Caerdydd.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Toddi / Ymdoddi’. Daeth 17 ymgais i law gyda’r beirniad Menna Elfyn ac Emyr Lewis “wedi’u plesio yn arbennig gyda bob un o’r cynigion.”

Meddai’r beirniaid am y gwaith buddugol: “Hanes merch ifanc sydd â’i pherthynas wedi chwalu a geir yma, ac mae’n penderfynu dilyn cwrs ysgrifennu creadigol gyda’r nos. Down i wybod ei hanes yn raddol. Ceir hiwmor a dwyster yma – stori o fewn stori.

“Dyma awdur aeddfed sy’n gwybod sut i saernïo stori yn gelfyddyd. Dyma lais newydd cyffrous sy’n llawn haeddu ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Parc Margam a’r Fro.”

Mae Mali yn 24 oed ac bellach yn byw yn Y Felinheli. Yn gyn-ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, graddiodd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor ac mae’n gweithio fel hwylusydd llawrydd yn ardal Gwynedd. Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu am y Goron. Mae Mali yn diolch i Dr Marged Tudur ac Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor am bob cefnogaeth, ac i Ysgol Glan Clwyd am ei hysbrydoli ac am bob anogaeth wrth iddi ddechrau ysgrifennu flynyddoedd yn ôl.

Nicola Palterman o Gastell-nedd oedd gwneuthurwraig y Goron eleni, a rhoddir y goron gan ysgolion cynradd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

Meddai’r gemydd Nicola Palterman: “Ro’n i’n awyddus bod y cynllun yn cynnwys y Dur a’r Môr. Mae tonnau’r tirlun arfordirol yn ardal Aberafan i’w gweld, a’r adar sy’n symbol cryf yng Nghân y Croeso eleni ac yn cynnig arwydd cryf o obaith at y dyfodol. Ond mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur sydd wedi bod yn asgwrn cefn i bobl dros y blynyddoedd.”

Siân Lloyd, enillydd y goron union 50 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod yr Urdd 1975, gyflwynodd y goron i’r enillydd ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn heddiw.

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

 

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3