Mair Edwards yw Cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn
November 08, 2023
Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn dathlu dechrau pennod newydd yn ei hanes. Yn ogystal â chwblhau gwaith uwchraddio sylweddol gwerth £2m ar y safle, mae’r Urdd yn falch o groesawu Mair Edwards fel Cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn.
Yn dilyn blwyddyn o waith datblygu, mae’r gwaith o uwchraddio’r Ganolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr wedi’i gwblhau ac mae Canolfan o’r radd flaenaf bellach i’w chael ar lan Llyn Tegid. Mae’r Ganolfan yn cynnwys llety a chyfleusterau hunan-arlwyo, ardaloedd cyfarfod, ystafelloedd newid, a gweithdy. Mae’r adeilad newydd hefyd yn cynnig ystafelloedd gyda golygfeydd godidog dros Lyn Tegid i’w hurio ar gyfer grwpiau i gynnal cyfarfodydd, neu weithdai.
Erbyn gwanwyn 2024 bydd Glan-llyn hefyd yn agor safle gwersylla newydd sbon, Cae Penllyn, fydd yn cynnig cegin, adnoddau hunan-arlwyo ac ardal gymunedol aml-ddefnydd i grwpiau mawr a bach o wersyllwyr fel ei gilydd.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’n wych gweld y cyfleusterau newydd hyn wedi’u cwblhau ac yn cael eu mwynhau gan blant a phobl ifanc a staff y Gwerysll. Mae’r Ganolfan Ddŵr newydd yn ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau awyr agored o’r ansawdd uchaf yng Nglan-llyn, ac yn rhan o weledigaeth ehangach i uwchraddio cyfleusterau Gwersylloedd yr Urdd.
“Dros y dair blynedd diwethaf mae Glan-llyn wedi derbyn buddsoddiad o £2m, gyda diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles AS, er mwyn datblygu darpariaeth y ganolfan awyr agored – sydd hefyd yn cynnwys trawsnewid adeilad 150 oed, Glan-llyn Isa’, i lety hunangynhaliol a thrawiadol. Mae Glan-llyn Isa’ yn ateb y galw gan aelodau hŷn yr Urdd am lety annibynnol, ac wedi bod yn hynod boblogaidd ers ei agoriad yn 2021.”
Mae’r Urdd hefyd yn falch o groesawu Mair Edwards fel Cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn, yn dilyn ymddeoliad Huw Antur. Mae gan Mair dros 16 mlynedd o brofiad o weithio ar lefel strategol ac fel aelod o Uwch Dîm yn y maes datblygu ac adfywio cymunedol o fewn y sector dai.
“Mae darparu’r cyfleoedd gorau i bobl ifanc wedi bod yn greiddiol i fy ngwaith ers degawdau bellach, ac am barhau i fod yn flaenoriaeth gen i yn rhinwedd y swydd hon,” meddai Mair Edwards, Cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn.
“Dros y blynyddoedd mae Glan-llyn wedi llwyddo i wireddu cynlluniau sylweddol er mwyn gwella safonau a chyfleusterau’r gwersyll, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol i alluogi hyn i ddigwydd. Mae Canolfan Ddŵr newydd Glan-llyn gystal ag unrhyw ganolfan yn unrhyw le, ac mae hyn yn rhoi’r hyder i ni barhau i ddenu plant a phobl o bob cwr i gymryd rhan mewn gweithgareddau o bob math.”
- All6403
-
News
5971
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1652
-
Arts
1467
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
519
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
88
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3