Llwyfan i bobl ifanc Môn i leisio barn am newid hinsawdd

December 10, 2024

Yn dilyn penwythnos o amharu yn sgil storm Darragh, daeth disgyblion dwy o ysgolion uwchradd Môn at ei gilydd yn Ljangefni yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd arbennig i drafod effaith newid hinsawdd yn lleol. Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl ifanc i leisio eu pryderon ac i gynnig atebion i rai o’r heriau ddaw yn sgil newidiadau a digwyddiadau tywydd eithafol. 

Wedi ei threfnu gan Menter Môn fel rhan o ‘Sgwrs Hinsawdd’ Llywodraeth Cymru, roedd y gynhadledd yn cydnabod yr angen am weithredu brys a rôl allweddol y genhedlaeth nesaf wrth ymateb i heriau amgylcheddol. Y cyflwynydd poblogaidd,  Ameer Davies-Rana oedd yn hwyluso’r digwyddiad gyda chyfraniadau gan arbenigwyr yn cynnwys Dr Eifiona Lane o Brifysgol Bangor a swyddogion Menter Môn.

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, dywedodd: “Mae’n hanfodol bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed mewn trafodaethau mor bwysig â hyn. Mae’r gynhadledd yma yn gyfle i rannu syniadau, i ddysgu gan arbenigwyr, a chreu gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

“Fel cwmni rydyn ni’n gwneud llawer o waith yn y maes amgylcheddol, gan weithio gyda chymunedau i gynnal gwarchodfeydd natur a chynefinoedd rhywogaethau prin.  Rydym hefyd yn datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy arloesol, sy’n cynnwys cynllun ynni llanw Morlais i gynhyrchu trydan glân a Hwb Hydrogen Caergybi sydd â’r nod o gynhyrchu tanwydd di-garbon.

“Mae gan yr ynys rinweddau naturiol unigryw sydd o dan fygythiad oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys newid hinsawdd. Trwy gynnal digwyddiadau fel hyn a pharhau i gefnogi ac annog gweithredu ein gobaith yw gallu chwarae rhan fechan yn y datrysiad a chael effaith gadarnhaol i’r dyfodol. “

Nod Sgwrs Hinsawdd Llywodraeth Cymru yw annog trafodaethau lleol am effaith newid hinsawdd a cheisio darganfod ffyrdd newydd o addasu. Yn un o gyfres, bydd y digwyddiad yn Llangefni yn cyfrannu lleisiau lleol i drafodaeth ehangach fydd yn y pendraw yn llywio sut bydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio ac yn sicrhau bod camau gweithredu yn ystyried anghenion cymunedau ar draws Cymru.

More

SEE ALL

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • All6403
  • News
    5971
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1652
  • Arts
    1467
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    519
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    88
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3