Llwyddo’n Lleol a Mentrau Iaith Cymru yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr ARFOR 

July 01, 2024

Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru yn  rhedeg cynllun newydd sbon i gynnig profiad gwaith cyflogedig i saith o fyfyrwyr gyda’i Menter Iaith leol dros yr haf. 

Ar ôl proses ymgeisio cystadleuol, dewisiwyd saith myfyriwr Cymraeg o Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn sy’n astudio pynciau amrywiol ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor i gymryd rhan yn y cyfle gwerthfawr. 

Fe fyddant yn treulio’r cyfnod yn ystod yr haf yn gweithio gyda Mentrau Iaith Gorllewin Sir Gâr, Gwendraeth Elli, Dinefwr, Cered, Gwynedd a Môn gan ddod â syniadau am brosiectau o’u cyrsiau gradd amrywiol i’w gweithredu yn y Mentrau Iaith.

Dywedodd Jade Owen, Rheolwr Prosiect Llwyddo’n Lleol: “Mae’r profiad hwn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ehangu eu sgiliau yn y gweithle ac ennyn profiad mewn maes sydd o ddiddordeb iddynt, a hynny o fewn eu hardaloedd lleol.” 

Ychwanegodd Catrin Jones o Fenter Iaith Môn: 

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw i gael eu cyfraniadau i weithgarwch y Mentrau. 

“Rydym yn cynnal gwyliau cerddorol, clybiau gwyliau, gweithdai a sesiynau sgwrsio yn ystod yr haf, ac fe fydd y criw yn dod ag egni a syniadau newydd i’r gweithgarwch yma.

Mae’r criw fu’n llwyddiannus yn bobl ifanc deallus a brwd ac fe rydym yn ffodus iawn o gael eu hamser dros yr haf.” 

Mae’r cynllun yn ymdrech gan Llwyddo’n Lleol a Mentrau Iaith Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg bobl ifanc o’r maes hyrwyddo iaith fel gyrfa posibl, ac ysbrydoli graddedigion y dyfodol bod modd ffynnu mewn gweithle lleol, drwy wneud gwahaniaeth ymarferol yn eu cymunedau brodorol.

Dywedodd Gwenno Roberts, â fydd yn ymuno â thim Menter Gorllewin Sir Gâr dros yr haf: “Nid yn aml mae’n bosib i fod yn rhan o ymchwilio a threfnu digwyddiadau dwi wedi bod am eu gweld yn fy ardal leol i, ac felly dwi wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn cyfle fel hyn gan Llwyddo’n Lleol a Mentrau Iaith Cymru ar fy stepen nrws i. 

“Mae’r iaith Gymraeg a’r gymuned yn bwysig iawn i mi ac felly edrychaf ymlaen at ddechrau’r swydd a dysgu mwy gyda chymorth staff Menter Gorllewin Sir Gâr. 

“Fel myfyrwraig bresennol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gobeithiaf y bydd y cyfle yma yn fuddiol i mi wrth i mi ddatblygu fy sgiliau, ymgyfarwyddo â’r byd gwaith ac agor fy llygaid i yrfa posib sydd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Fel rhan o’r profiad, bydd y saith unigolyn llwyddiannus yn cyfrannu at ymgyrch Llwyddo’n Lleol sy’n ceisio herio’r ystrydeb nad oes modd cael bywyd gyrfaol a chymdeithasol llewyrchus o fewnardaloedd arfordirol Cymru. Dilynwch eu siwrnai dros yr haf ar gyfrifon cymdeithasol Llwyddo’n Lleol neu eich Menter Iaith leol. 

I ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, ewch i: llwyddonlleol2050.cymru

More

SEE ALL

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • All6403
  • News
    5971
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1652
  • Arts
    1467
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    519
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    88
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3