Lansio clwstwr newydd i hybu arloesedd amaeth a bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru
December 18, 2024
Bydd y SRhC yn meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth-dechnoleg a Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru, a byddant yn cydlynu gweithgareddau ac yn hyrwyddo cyfleoedd ariannu sydd ar gael yn y clwstwr lleol drwy brosiect a fydd yn rhedeg i ddechrau am ddwy flynedd gan ddefnyddio cyllid gan Innovate UK.
Nod y SRhC yw cryfhau cydweithio rhwng busnesau, sefydliadau ymchwil, a phartneriaid rhanbarthol i hybu arloesedd a bod yn gystadleuol yn y sectorau bwyd-amaeth a thechnoleg amaethyddol.
Bydd grŵp llywio strategol sy'n goruchwylio'r SRhC yn cael ei arwain gan Tyfu Canolbarth Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag ArloesiAber ac M-SParc. Gyda'i gilydd, byddant yn cefnogi busnesau drwy ddigwyddiadau, gweminarau a chyfleoedd ariannu - cryfhau rhwydweithiau a chydweithio ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Carwyn Jones-Evans ar ran Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae'r cyllid hwn yn garreg filltir bwysig i'r sectorau bwyd-amaeth a thechnoleg amaeth yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Bydd y Sefydliad Rheoli Clwstwr yn gyfrwng hanfodol ar gyfer dod â busnesau, partneriaid ymchwil a chyfleoedd ariannu ynghyd, gan sicrhau bod ein rhanbarth yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi technolegol."
Dywedodd Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, Uchelgais Gogledd Cymru: "Mae lansio'r Sefydliad Rheoli Clwstwr yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn ein galluogi i harneisio a gwneud y mwyaf o botensial enfawr y sectorau technoleg bwyd-amaeth ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae rhan ganolog yn y broses o sicrhau bod sefydliadau cymwys yn elwa o'r cyllid sydd ar gael."
Dywedodd Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber: "Mae'r lansiad hwn yn foment allweddol i ni, ac rydym yn gyffrous i gefnogi'r clwstwr bwyd-amaeth. Ein nod yw dod â busnesau a sefydliadau ymchwil ynghyd i arloesi mewn ffyrdd sy'n economaidd hyfyw ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol."
Ychwanegodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc: "Mae'r clwstwr amaeth-dechnoleg rydyn ni'n ei reoli eisoes yn cymryd camau breision ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i gefnogi arloeswyr disgleiriaf y rhanbarth."
Anogir busnesau a phartneriaid ymchwil i archwilio cynigion arloesedd yr ardal leol a chymryd rhan yn y clystyrau rhanbarthol.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd cyllido a sut i gymryd rhan, ewch i www.tyfucanolbarth.cymru/TechAmaethTechBwyd
- All6403
-
News
5971
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1652
-
Arts
1467
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
519
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
88
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3