Hyd at £5,000 i deuluoedd sy’n dychwelyd i ARFOR

October 08, 2024

Drwy’r elfen Ymgartrefu, mae Llwyddo’n Lleol yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i deuluoedd sydd am ddychwelyd i ranbarth ARFOR.

Mae’r grantiau yn cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i gynorthwyo rhieni / teuluoedd sy’n ystyried dychwelyd i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd neu Ynys Môn. Mae’r cymorth hwn yn gallu cynnwys help i dalu am gostau cludiant, costau rhent neu forgais, costau gwarchod plant, neu wersi Cymraeg hyd yn oed.

Un teulu sydd eisoes wedi elwa o’r cymorth hwn yw teulu Huw Brassington sy’n wreiddiol o Wynedd ond sydd bellach yn byw a gweithio yn Cumbria ers rhai blynyddoedd.

Dywedodd Huw: “Mae grant Llwyddo’n Lleol wedi’i gwneud hi’n haws i ni wneud y penderfyniad yna i symud adref i Gymru. 

“Nid yn unig dwi’n dod â fy swydd efo fi ond bydda i hefyd yn chwilio am bobl i weithio o ogledd Cymru. Mae hynny’n rhan o effaith grant Llwyddo’n Lleol. Mae ’na swyddi da i bobl eraill yng ngogledd Cymru wedi dod ohono fo.”

Mae allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ei chadarnleoedd. O ganlyniad, un o amcanion Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd eisoes wedi gadael fod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid.

Nid trwy’r elfen Ymgartrefu yn unig y mae Llwyddo’n Lleol yn cyflawni’r nod hwn. Mae hefyd wedi llwyddo i ddenu unigolion i ddychwelyd adref i ARFOR drwy’r elfen Mentro a’r elfen Gyrfaol. Mae rhagor o wybodaeth am yr elfennau hyn ar gael ar wefan Llwyddo’n Lleol.

Un o’r unigolion sydd wedi cymryd y cam ac wedi dychwelyd adref o ganlyniad i gymorth gan elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol yw Sioned Meleri Evans. Symudodd Sioned yn ôl i Sir Gâr i fod yn is-gynhyrchydd gyda chwmni Carlam.

Dywedodd Sioned Evans: “Dwi’n lwcus iawn achos dwi wedi gallu dod ’nôl adref i Sir Gâr i weithio ar stepen fy nrws i Carlam. Mae'r cwmni wedi'i leoli yn yr Egin, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i fod yn agosach at fy nheulu a ffrindiau.”

Mae saith unigolyn arall a dderbyniodd gymorth gan elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol hefyd wedi ymgartrefu yn mröydd eu mebyd yn ARFOR o ganlyniad i’w swyddi. Mae rhagor o wybodaeth am yr unigolion hyn ar gael ar dudalen elfen Gyrfaol ar wefan Llwyddo’n Lleol. 

Bu trafodaeth ddifyr ar y pwnc ‘Aros, Gadael neu Ddychwelyd i ARFOR?’ ym mhabell Llwyddo’n Lleol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Diddorol oedd clywed gwahaniaeth barn y panelwyr ar y manteision a’r anfanteision o aros, gadael neu ddychwelyd.

Un o’r panelwyr oedd Sioned Thomas a dderbyniodd gymorth gan elfen Mentro Llwyddo’n Lleol yn gynharach eleni. Mae Sioned o’r farn bod dychwelyd adref wedi’i galluogi i fyw bywyd sy’n llawn gweithgareddau awyr agored a chael cydbwysedd da rhwng ei gwaith a’i bywyd cymdeithasol.

Dwedodd Sioned Thomas: “Mae Llandysul yn fy siwtio i yn berffaith; mae’n gymuned ble mae lot o bobl ifanc yn byw. Mae lot o weithgareddau awyr agored da yma fel Llandysul Paddlers … felly mae lot o bobl ifanc wedi symud i’r pentref.”

Oes gennych chi yr un awydd i symud adref i ARFOR?

Os mai ‘ie’ yw’r ateb, mae Llwyddo’n Lleol am glywed gennych chi! Mae angen i ymgeiswyr fodloni’r gofynion canlynol:

- Cyplau/teuluoedd sydd ag o leiaf UN oedolyn 35 oed neu iau; 
- Cyplau/teuluoedd sydd ag o leiaf UN aelod sy’n dod yn wreiddiol o ranbarth ARFOR (Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd neu Ynys Môn) ond sydd bellach yn byw y tu hwnt i’r siroedd hyn;
- Bod yn unigolyn sy’n medru’r Gymraeg neu wedi ymrwymo i ddysgu’r iaith, neu’n deulu sydd ag un aelod sy’n siarad ac/neu yn dysgu Cymraeg;
- Yn gallu ymrwymo i ddychwelyd i ranbarth ARFOR erbyn mis Mawrth 2025;
- Yn hapus i rannu eu profiad o symud yn ôl ar gamera.  
- Mae yna rywfaint o hyblygrwydd ynghylch y gofynion uchod, felly os nad ydych chi’n bodloni’r holl ofynion ond â diddordeb, cysylltwch â Llwyddo’n Lleol am sgwrs: llwyddonlleol@rhaglenarfor.cymru. 

Am ragor o wybodaeth ac am ddolen i’r ffurflen gais, dilynwch y ddolen hon.

More

SEE ALL

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • All6403
  • News
    5971
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1652
  • Arts
    1467
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    519
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    88
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3