Grantiau i leihau gwastraff ac annog ailddefnyddio

January 08, 2025

Mae busnesau a sefydliadau yng Ngwynedd wedi cael eu gwahodd i wneud cais am grantiau o hyd at £30,000 i ariannu prosiectau economi gylchol arloesol. Mae ceisiadau ar agor tan 13 o Ionawr, a bydd cyllid ar gael i brosiectau gall leihau gwastraff drwy fynd y tu hwnt i ailgylchu arferol. Y gobaith ydy, byddai hyn –  yn hyrwyddo diwylliant o ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau bob dydd.

Mewn menter sy’n cael ei reoli gan Menter Môn, y nod yw datblygu'r economi gylchol yng Ngwynedd, gan gefnogi busnesau a sefydliadau i ystyried ffyrdd newydd o gynyddu gwerth eitem neu wasanaeth. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r ymgyrch i annog arloesedd i greu dyfodol carbon isel fwy gwyrdd.

Mae cyllid o hyd at £30,000 ar gael ar gyfer prosiectau i brynu offer neu i ddatblygu mentrau tymor hir. Mae Menter Môn hefyd yn awyddus i bwysleisio bod cynghorwyr wrth law i helpu gyda cheisiadau ac i weithredu'r prosiectau dros y tymor hir.

Elen Parry yw rheolwr prosiect Cylchol Menter Môn, ac mae'n annog busnesau a grwpiau i wneud y mwyaf o'r cyfle hwn. Dywedodd: "Mae posib defnyddio'r grant i ysgogi arloesedd a thwf wrth i ni groesawu egwyddorion yr economi gylchol. Trwy ailfeddwl sut rydym yn defnyddio adnoddau drwy leihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau, ac ail-bwrpasu cynhyrchion, gallwn greu model busnes mwy cynaliadwy sydd o fudd i'r amgylchedd yn ogystal â'r economi leol. Mae'r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu gwerth i'r rhwydwaith o ofodau gwneud FFIWS sydd wedi'u lleoli ar draws Gwynedd, gan ddarparu cyfleoedd i arallgyfeirio eu defnydd a dod â phobl a busnesau i fannau creadigol.

Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer mentrau cymunedol, sefydliadau dielw yn ogystal â busnesau sydd am symud tuag at arferion cynaliadwy.
Ychwanegodd Elen: “Gall y cyllid ddarparu cymorth ariannol i droi syniadau newydd yn weithredoedd, gan alluogi busnesau a grwpiau eraill i fuddsoddi mewn prosesau, technolegau a gwasanaethau sy'n blaenoriaethu cynaliadwyedd. P'un a ydych chi'n lansio menter newydd neu'n ceisio tyfu prosiect sy'n bodoli eisoes, gall y grant hwn fod y cam cyntaf tuag at greu economi fwy effeithlon o ddefnyddio adnoddau.“

Gyda'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn prysur agosáu – gall busnesau a grwpiau sydd â diddordeb ymweld â https://www.mentermon.com/cylchol/ neu cysylltu â cylchol@mentermon.com  am wybodaeth bellach.

Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno eu cais cyn 13 Ionawr, ond, mae tîm Menter Môn ar gael i gefnogi ymgeiswyr unigol. Mae’r tîm yn annog ymgeiswyr sy’n ystyried ymgeisio i gyflwyno datganiad o ddiddordeb drwy'r wefan gyda throsolwg cryno o'r prosiect cyn y dyddiad cau. Ar ôl hyn, bydd tîm y prosiect yn cysylltu ac yn darparu cefnogaeth gyda chais llawn.

More

SEE ALL

José Peralta yw Prif Weithredwr newydd Hybu Cig Cymru

Lansio clwstwr newydd i hybu arloesedd amaeth a bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru

Mentera yn meithrin cefnogaeth ar gyfer maethu

  • All6384
  • News
    5954
  • Education
    2137
  • Leisure
    1869
  • Language
    1645
  • Arts
    1465
  • Environment
    1019
  • Politics
    932
  • Health
    691
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    573
  • Agriculture
    517
  • Food
    456
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Training / Courses
    85
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3