£378,000 i wella sgiliau gwaith pobl yn Sir Ddinbych 

July 29, 2024

Diolch i gyllid gan Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych, mae wyth sefydliad lleol wedi derbyn cyfanswm o £378,000 i ddarparu cymorth, mentora a hyfforddiant i helpu pobl leol gyda’u sgiliau neu i gael gwaith. 

Mae’r gronfa’n cael ei gweinyddu gan fenter gymdeithasol Cadwyn Clwyd, fel rhan o becyn ehangach gwerth £4.75 miliwn i gefnogi cymunedau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. 

Roedd Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych ar agor i elusennau, cwmnïau di-elw, mentrau cymdeithasol, ysgolion, cyrff statudol a’r sector gyhoeddus sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych ym mis Ebrill. 

Mae Dawn Johnson yn Swyddog Prosiect yn Cadwyn Clwyd, gyda chyfrifoldeb am Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych. Meddai, “Mae Cadwyn Clwyd yn falch iawn o weinyddu'r Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau ar ran Cyngor Sir Ddinbych. 

"Mae cyflwyno'r math yma o gronfa yn rhoi cyfle i ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl leol. Bydd yr effaith y bydd y grant hwn yn ei gael ar bobl, eu cymuned a busnesau lleol yn bellgyrhaeddol. 

"Mae'r prosiectau a ariannwyd wedi'u cynllunio'n benodol i helpu pobl i adfer eu hyder, adeiladu hunan-barch a’i gwneud hi’n haws iddyn nhw gael swydd. Maent yn gallu cynnig cwnsela, mentora, hyfforddiant, lleoliadau gwaith, gwirfoddoli a chyfleoedd antur awyr agored ac alldeithiau ledled y sir." 

Un o’r busnesau a dderbyniodd £186,792 o gyllid oedd Canolfan Addysg Awyr Agored Bryntysilio yn Llangollen gyda’u prosiect ‘Sir Ddinbych Hyderus’. 

Bwriad eu prosiect oedd defnyddio’r awyr agored a chanolfan Bryntysilio fel catalydd ar gyfer twf personol a phroffesiynol. 
Pennaeth y Ganolfan, Dr Chris Eastabrook, sy’n esbonio mwy, “Hanfod y prosiect yw defnyddio tirwedd wyllt ein sir hardd ac arbenigedd Bryntysilio i ddatblygu hyder unigolion a’r gred eu bod yn gallu llwyddo. 

“Nid creu hyfforddwyr awyr agored yw’r nod ond newid ffordd o feddwl. Efallai y byddan nhw ar ddechrau’r cwrs yn edrych ar ddŵr gwyllt mewn afon, clogwyn uchel neu gopa mynydd ac yn meddwl, ‘Alla i ddim gwneud hyn’. Ond yna, o fewn ychydig oriau, maen nhw wedi llwyddo. 

“Dyna’r teimlad rydyn ni’n anelu ato, dyfalbarhad yn wyneb her.” 

Prosiect arall a elwodd o Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych gyda chyllid o £23,550 oedd Twristiaeth Gogledd Cymru gyda’u ‘Academi Twristiaeth a Lletygarwch Gogledd Cymru’. 

Mae'r academi ar agor i bobl ifanc dros 16 oed sy'n byw yn Sir Ddinbych ac sydd allan o waith ar hyn o bryd. Mae'n cynnig cwrs twristiaeth byr, rhad ac am ddim, i gael y bobl ifanc i swyddi o fewn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch. 

Mae Jim Jones, Prif Weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, yn esbonio ymhellach, “Mae ein cyrsiau’n cynnwys elfennau theori, dysgu rhyngweithiol, a gwaith ymarferol i sicrhau bod y bobl ifanc yn barod i gael eu cyflogi. 

“Un o nodweddion allweddol y rhaglen yw ymweld â sefydliadau twristiaeth a lletygarwch amlwg yn Sir Ddinbych. 

“Mae’r profiadau ymarferol yma’n rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i arferion gorau’r diwydiant, gan ganiatáu iddynt arsylwi a thrafod cyfleoedd mewn amgylchedd gwaith go iawn. 

“Mae Twristiaeth Gogledd Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Cadwyn Clwyd i helpu unigolion yn Sir Ddinbych gychwyn gyrfa yn y diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch.” 

Mae’r cyllid yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Llywodraeth y DU, a fydd wedi darparu cyllid o £2.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn diwedd y flwyddyn hon. 

I gael rhagor o wybodaeth am Cadwyn Clwyd, ewch i https://cadwynclwyd.co.uk.

More

SEE ALL

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • All6403
  • News
    5971
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1652
  • Arts
    1467
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    519
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    88
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3