Ffermydd Gwynt a chyllid cynllunio yn ehangu gwaith Mentrau Iaith a’r defnydd o’r Gymraeg
September 24, 2024
Un o brif amcanion y Mentrau Iaith yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, yn unol â strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o “Ddyblu’r Defnydd” yn ogystal â chyrraedd 1 Miliwn o siaradwyr.
Eisoes roedd Menter Iaith Conwy yn ceisio gwasanaethu ei sir ac yn cyflogi 2 swyddog maes ac yn cael arian gan y Llywodraeth i nweud hyn. Ond gan na fu dim cynnydd mewn cyllid craidd mewn bron i 15 mlynedd mae wedi bod yn anodd cyrraedd ardaloedd o’r Sir.
Diolch i Ffermydd Wynt y Môr a Gwastadau Rhyl mae’r Fenter eisoes wedi penodi Swyddog i weithio yn ardal arfordirol siroedd Conwy a Dinbych. Mae’r ddwy Fenter Iaith yn gweithio trwy rwydwaith o Grwpiau ardal sydd yn cynnwys gwirfoddolwr lleol sydd yn cynghori a chynorthwyo’r Fenter be sydd angen yn eu hardaloedd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.
Mae Eryl Prys Jones wedi bod yn gweithio yn ardal y Glannau yn y ddwy sir ers dros flwyddyn. Diolch i’w waith mae yna lawer mwy o gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol yn ardal y Glannau. Mae’n gyfrifol am Bwyllgorau Ardal Llanfairfechan a Phenmaenmawr, Tref Conwy, Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele yn Sir Conwy a Prestatyn, Rhuddlan a Dyserth yn Sir Ddinbych.
“Mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn ar draws yr ardal gyfan” Yn ôl Eryl. “Mae wedi bod yn bleser cydweithio efo’r tri pwyllgor oedd eisoes yn weithredol ac wedi bod yn fwy o her - ond yn fuddiol iawn - cychwyn y pump criw arall o’r newydd. Diolch i arian y ffermydd gwynt rydym wedi medru torri tir newydd ar y Glannau, gan ddod â digwyddiadau a bwrlwm cyfrwng Cymraeg i drefi ble doedd gan yr iaith fawr ddim presenoldeb gyfoes.
Er enghraifft: rydym wedi trefnu llu o gigs o wahanol fathau - yn aml, y gigs Cymraeg cyfoes cyntaf i’r llefydd yma weld ers degawdau-, denu cwmniau theatr i’r ardal ar y tro cyntaf ers amser maith, cynnal nifer o deithiau cerdded hanesyddol, nosweithiau cwis, Steddfod Amgen ac llawer iawn mwy! Os dwi wedi cyfri’n iawn, rydym wedi cynnal dros 60 o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws yr ardal gyfan ers i mi fod yn y swydd.”
Yn Abergele yn benodol mae’r Fenter wedi gallu manteisio a’r cyllid trwy’r system gynllunio. Wrth i’r Cynllun Datblygu lleol gael ei ddatblygu ddaru Fenter codi pryderon ynglŷn faint o dai oedd yn cael eu hadeiladu yn yr Ardal a’i effaith negyddol ar y Gymraeg. Fel canlyniad mae yna arian yn cael ei ryddhau i gefnogi’r Gymraeg yn yr ardal. Dyma tro cyntaf i hyn ddigwydd yn Genedlaethol.
Un o’r gweithgareddau fydd Sesiynau Blasu Drama a Cherddoriaeth i bobl ifanc yn cychwyn yn Neuadd Pensarn ar y 24ain o Fedi bydd yn cael ei arwain gan Morgan Elwy a Manon Prysor. Ychwanegodd Eryl; “Ein gobaith yw cynnal mwy o weithgarwch cyson difyr i bobl ifanc cael cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg tu allan i’r ysgol ar y Glannau. Fydd hyn yn adeiladu ar ein Clybiau Eirafyrddio a Sesiynau Bocsŵn (sydd yn annog plant a phobl ifanc i ffurfio bandiau)”.
Diolch i Ffermydd Wynt Clocaenog a Brennig mae’r ddwy Fenter bellach wedi penodi swyddog ychwanegol i weithio yn yr ardal wledig hefyd. Bydd Nia Evans yn gweithio efo ardaloedd Uwchaled a Bro Aled yn Sir Conwy ac ardaloedd Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Prion, Saron, Nantglyn a’r cylch yn Sir Ddinbych.
Er bod y Gymraeg yn gryfach fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd yma mae heriau er hynny o ran cynnal digwyddiadau cyffrous a perthnasol i blant a phobl ifanc yn ogystal â’r angen i weithio’n ddwys efo mewnfudwyr a dysgwyr i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae nifer o cymunedau gwledig siroedd Conwy a Dinbych yn rhai â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg, a bydd y gwaith hwn yn cydfynd efo argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg sydd yn cydnabod pwysigrwydd y cymunedau hyn i barhad y Gymraeg.
Fy ngobaith yw cynyddu’r cyfleodd sydd yn ei ardaloedd gwledig i blant, pobl ifanc ac oedolion lleol gael byw eu bywydau yn Gymraeg ac yn yr un modd cynnig cyfleoedd i drigolion di – Gymraeg yr ardal ddysgu a magu hyder gan ei gwneud yn iaith i bawb waeth beth yw ei gallu.
Meddai Meirion Davies, Prif Weithredwyr Menter Iaith Conwy, a luniodd y ceisiadau:
“Mae’r gefnogaeth ychwanegol yma yn golygu ein bod yn gallu dwysáu ein gwasanaeth i lawer o rannau o’r Sir mewn ffordd ystyrlon. Wrth weithio a meithrin pwyllgorau lleol rydym yn gallu ymateb i anghenion penodol y gymuned ac yn gweithio efo gwirfoddolwyr i wireddu eu hamcanion. Mae’r cynnydd yn y digwyddiadau mewn ardal y Glannau mewn gweithgarwch cyfrwng Cymraeg yn syfrdanol. Ond eto dwi’n teimlo ein bod ond yn cyffwrdd y wyneb o ran y potensial i gynyddu defnydd o’r Gymraeg. Er engrafiff llynedd ddaru ni ddarparu oddeutu 5000 o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ond mae 'na agos at 30,000 o siaradwyr Cymraeg yn y Sir.”
- All6424
-
News
5991
-
Education
2141
-
Leisure
1870
-
Language
1656
-
Arts
1469
-
Environment
1026
-
Politics
932
-
Health
694
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
580
-
Agriculture
523
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3