Fferm yn angori priddoedd trwy newid strategaeth ail-hadu er mwyn rhoi hwb i fusnes a natur
September 27, 2022
“Dydi'r pridd hynny ddim yn cael ei amnewid, a dyna'ch bywoliaeth yn cael ei olchi i ffwrdd; mae angen ichi gadw'r adnodd hwnnw ar eich fferm,'' rhybuddiodd Charlie Morgan, arbenigwr porthiant a glaswelltir, ffermwyr a oedd yn mynychu diwrnod agored yn Fferm Dolygarn, Safle Arddangos Cyswllt Ffermio yn Llanbadarn Fynydd, Powys.
Mae Mr Morgan wedi bod yn cynghori’r ffermwr da byw James Powell gyda phenderfyniadau ail-hadu yn Fferm Dolygarn drwy waith prosiect y fferm gyda Cyswllt Ffermio.
Mae Mr Powell wedi newid o dyfu cnydau pori gaeaf o faip sofl a rêp i’w ddefaid i hau cymysgedd o rêp, rhygwellt Eidalaidd a meillion berseem (Clampsaver II), sydd nid yn unig yn darparu porthiant hydref/gaeaf ar gyfer ŵyn pesgi, ond hefyd ar gyfer pori yn y gwanwyn a chnwd silwair.
Mae gan y cnwd hwn o laswellt y gallu i 'angori' y pridd, i leihau faint o bridd a maetholion sy’n rhedeg oddi ar y tir. Roedd hefyd yn caniatáu i Mr Powell ddyblu ei incwm o werthu cig oen. Cynhyrchodd 7,843kg o gig oen ar 4.7ha, gan ddychwelyd £16,845 mewn gwerthiant, o’i gymharu â 3,500kg o gig oen a oedd yn werth £7,500 o erwau cymharol o faip sofl a rêp porthiant.
Roedd cyfrif y mwydod yn y pridd lle'r oedd y Clampsaver 50% yn uwch nag yn y cae bresych. Fe'i dilynwyd yn y cylchdro gan wyndonnydd parhaol o Highlander, cymysgedd hirdymor a luniwyd ar gyfer ffermydd yr ucheldir, gyda pherlysiau ychwanegol a meillion coch; mae hyn wedi trawsnewid priddoedd ac argaeledd porthiant.
Gan ddefnyddio offer hidlo a oedd yn efelychu modfedd o law yr awr (yn debyg i’r hyn a allai ddigwydd yn ystod storm fellt a tharanau), dangosodd Mr Morgan i ffermwyr sut, trwy wella proffil y pridd, yr oedd bellach yn gallu amsugno dŵr yn well – nid yn unig i atal llifogydd mewn trefi a chymunedau ar lefelau is, ond dal gafael ar y dŵr hwnnw i ganiatáu i blanhigion ei ddefnyddio yn ystod cyfnodau o sychder.
“Bydd pridd yn dal cronfeydd dŵr a, thrwy gyfuniad o weithredu capilari a thyfu’r math cywir o wyndonnydd aml-rywogaeth, mae’n galluogi pori yn ystod yr amodau eithriadol o sych yr ydym wedi’u gweld eleni,” meddai.
Roedd y gwndwn Highlander yn cael ei dyfu heb unrhyw wrtaith artiffisial – dim ond tail a gynhyrchwyd gan y moch a fagwyd ar gontract yn Fferm Dolygarn.
Mae Mr Powell hefyd yn defnyddio coed i ddiogelu priddoedd ac yn darparu lleiniau cysgod ar gyfer ei stoc. Mae’r lleiniau cysgod a blannwyd ar y fferm yn y 1970au bellach wedi aeddfedu, ac yn cael eu cwympo ar gyfer pren, gan ddarparu incwm i'r busnes. Byddant yn cael eu hamnewid gan gynlluniau plannu sy'n cynnwys 50% o goed conwydd a 50% o rywogaethau llydanddail brodorol.
Dywedodd Geraint Jones, swyddog coedwigaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi bod yn cynghori ar y prosiect, fod yr haf poeth a heulog wedi amlygu pa mor bwysig oedd lloches ar ffermydd da byw. Cyn y cymhellion ariannol newydd ar gyfer plannu coed yng Nghynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru, mae Mr Jones yn argymell bod ffermwyr yn clustnodi ardaloedd lle mae stoc yn agored i'r tywydd eithafol.
Mae’n awgrymu y dylid integreiddio coed ar fferm i weithio i system ffermio’r fferm honno, gan wneud defnydd o’u buddion amlswyddogaethol, o atafaelu carbon a chynyddu bioamrywiaeth, i wella ansawdd dŵr a bod o fudd i iechyd a lles anifeiliaid.
Mae gan wrychoedd hefyd ran bwysig i'w chwarae mewn bioddiogelwch fferm.
“Drwy sefydlu ffin dda, byddwch yn atal trosglwyddo clefydau fel clafr a llau mewn defaid, a all ddigwydd pan fyddant yn rhwbio yn erbyn ffensys, ac yn stopio gwartheg rhag cyffwrdd trwyn i drwyn,” meddai Mr Jones wrth ffermwyr yn y digwyddiad.
Bydd coed yn rhan bwysig o'r cyfrifiadau ariannol ar ffermydd yn y dyfodol, ychwanegodd.
“Nawr bod coed ar frig yr agenda newid yn yr hinsawdd, a'r angen am arbedion effeithlonrwydd busnes, mae plannu coed yn opsiwn ariannol hyfyw.''
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
- All6368
-
News
5938
-
Education
2133
-
Leisure
1868
-
Language
1642
-
Arts
1462
-
Environment
1016
-
Politics
932
-
Health
689
-
Literature
646
-
Music
605
-
Money and Business
568
-
Agriculture
512
-
Food
455
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
285
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Training / Courses
83
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3