Elain Roberts yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025
May 29, 2025
Elain yw’r cyntaf erioed i ennill Medal Ddrama (yn 2023) a Chadair Eisteddfod yr Urdd. Hefyd am y tro cyntaf yn hanes cystadleuaeth y gadair, mae’r wobr wedi’i hennill gan ferch am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Teifi, aeth Elain i'r Brifysgol yn Mryste i astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth ac ar ôl graddio, symudodd gartref i weithio. Ym mis Chwefror eleni, symudodd Elain i Lundain i ddechrau ar swydd newydd gyda Phlaid Cymru yn San Steffan.
Enillodd Elain y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 a daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn 2022. Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth ar ôl mynychu dosbarthiadau cynganeddu yn Nhafarn y Vale, Felin-fach y llynedd.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rhydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun: ‘Tywod’. Mae cerdd Elain wedi’i lleoli ar Draeth Gwyn (Llanina, Ceinewydd), lleoliad oedd yn rhan allweddol o’i magwraeth, ac yn lleoliad mae hi’n mynd iddo i chwilio am lonyddwch. Dywedodd y beirniaid Tudur Hallam a Grug Muse fod Elain yn llwyr deilwng o Gadair yr Eisteddfod eleni am “gerdd sy’n gafael yn y darllenydd o’r caniad cyntaf, ac yn llwyddo i ddal ei gafael tan y pennill olaf un.”
“Rydym yn nwylo bardd gofalus. Stori gyfarwydd a geir yma, stori siaradwr Cymraeg ifanc yn gadael cefn gwlad am fywyd y ddinas, a’r traeth yn gyfrwng i archwilio’r teimladau a’r profiadau sydd ynghlwm â hynny. Llwyddodd y bardd i roi trefn ar emosiynau cymysg iawn, gan rannu â ni brofiad y Cymro a’r Gymraes a all fod yn ddedwydd ei byd mewn dinas Saesneg.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Tesni Peers o Wrecsam, a Celt John o Aberystwyth yn drydydd. Bydd y gwaith buddugol ynghyd â'r feirniadaeth ar gael i'w darllen yng Nghyhoeddiadau’r Stamp ar ôl y seremoni. Noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.
Mae Elain yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan Angharad Pearce Jones o ardal Brynaman a’i rhoi gan Gapel Soar-Maesyrhaf, Castell-nedd.
Meddai Angharad am y profiad o greu cadair Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro: “Braint o’r mwyaf ydy gwireddu breuddwyd wrth greu’r gadair hon eleni. Dwi’n ffodus i gael y darn olaf o’r dur Cymreig o weithfeydd Tata ar gyfer y gadair, a ro’n i’n benderfynol i greu cadair oedd yn teimlo’n bositif - oedd yn ddathliad yn hytrach na symbol trist am yr hyn a fu.”
Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.
Mae 30 mlynedd ers i Tudur Hallam, sy’n un o’r beirniaid, ennill y Fedal lenyddiaeth yn Mro’r Preseli 1995 am gasgliad o gerdd, Blith Draphlith.
- All6424
-
News
5991
-
Education
2141
-
Leisure
1870
-
Language
1656
-
Arts
1469
-
Environment
1026
-
Politics
932
-
Health
694
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
580
-
Agriculture
523
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3