Dyn o Fôn yn cerdded i Base Camp ar gyfer elusen iechyd meddwl
May 14, 2024
Bedair blynedd yn ôl, collodd Ioan a'i frawd Llion eu tad i hunanladdiad. Dywedodd: "Cafodd colli fy nhad effaith enfawr arna i, ac roeddwn i'n cael trafferth siarad am y peth. Fe ddigwyddodd hyn yn ystod y pandemig hefyd, wnaeth pethau’n anoddach.
"Mae elusennau fel Shout yn anhygoel. Dyma'r unig wasanaeth tecst sydd am ddim, yn gyfrinachol ac yn fyw 24/7 i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl. Roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth am yr elusen hon ond hefyd annog pobl ifanc i chwilio am gymorth os ydyn nhw'n cael trafferth. Ers dychwelyd o’r daith, dwi wedi cael cynnig i siarad mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am y materion hyn, sydd wedi bod yn wych.
“Rydw i’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr achos. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi codi £5,060, a dwi’n gobeithio gallwn barhau i godi mwy. Roedd yn gyfle anhygoel i heicio i Base Camp, mi fydd yn daith na wna i byth anghofio."
Mae ei fam, Kelly Jones, yn falch iawn o'i mab. Dywedodd: "Mae Ioan yn ysbrydoliaeth - allwn i ddim bod yn fwy balch ohono. Mae wedi gallu canolbwyntio ar rywbeth positif i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl pobl iau, sy'n anhygoel."
Mae R J Hughes, trefnwyr angladdau lleol yn Llangefni ac Amlwch, hefyd yn angerddol am godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ac yn falch o fod wedi cefnogi Ioan ar ei daith. Dywedodd Arwel Hughes, sylfaenydd a pherchennog y busnes: "Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith y gall hunanladdiad gael ar deuluoedd a chymunedau.
"Mae hwn yn bwnc sy'n agos at galon ein tîm, ac rydym yn credu y gall cefnogi straeon fel Ioan a'i dad wneud gwahaniaeth sylweddol.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o fewn y gymuned ac yn normaleiddio'r sgyrsiau agored gyda theulu a ffrindiau."
I ddarllen mwy am daith Ioan neu i gyfrannu: Ioan Jones yn codi arian i Shout (justgiving.com)
- All6403
-
News
5971
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1652
-
Arts
1467
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
519
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
88
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3