Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C
May 12, 2025
Dechreuodd Delyth yn y rôl ar Fai 1 2025 gan gymryd yr awenau gan Guto Bebb.
Daw'r cadarnhad wedi i Delyth ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Cymreig ar gyfer gwrandawiad cyn penodi ar Ebrill 23.
Mae Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) hefyd wedi cyhoeddi penodi pum aelod newydd i Fwrdd S4C sef Dr Gwenllian Lansdown Davies, Dyfrig Davies, Wyn Innes, Betsan Powys a Catryn Ramasut.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:
"Rydym yn falch iawn fod Delyth Evans wedi ymuno â S4C fel ein Cadeirydd newydd. Daw Delyth â chyfoeth o brofiad arweinyddol a llywodraethiant yn ogystal ag angerdd at weld y Gymraeg yn ffynnu ym mhob cwr o'r wlad. Mae hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y sector gynhyrchu i'r sianel ac i economi Cymru.
"Rydw i, a gweddill tîm S4C, yn edrych ymlaen yn eiddgar at gydweithio gyda Delyth wrth i ni ddechrau pennod newydd yn ein hanes.
"Hoffwn hefyd groesawu aelodau newydd y Bwrdd. Bydd eu cyfraniad a'u profiadau amrywiol yn sicr yn werthfawr iawn i ni wrth i ni wynebu heriau a chyfleon yr oes ddarlledu newydd.
"Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Guto Bebb am ei ymroddiad arbennig dros y flwyddyn ddiwethaf fel ein Cadeirydd dros dro – mae wedi dod â sefydlogrwydd a chadernid doeth i'r rôl.
"Wrth groesawu aelodau newydd, gan gynnwys ail dymor i Denise Lewis Poulton, hoffwn hefyd ddiolch i Chris Jones ac Adele Gritten ar ddiwedd eu tymor fel aelodau Bwrdd am eu cyfraniad i S4C."
Mae mwy o wybodaeth am y penodiadau yn natganiad y DCMS: Government announces confirmed Chair and Board appointments to the S4C Board - GOV.UK
- All6420
-
News
5987
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1654
-
Arts
1468
-
Environment
1025
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
580
-
Agriculture
522
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3