Daniel Grant yn lansio ei gwmni dillad cynaliadwy, Pen Wiwar
April 15, 2024
Fe ymgeisiodd Daniel Grant o Felinheli am gefnogaeth drwy elfen Mentro, Llwyddo’n Lleol, gyda’r nod o ddatblygu ei sgiliau byd busnes a chael cymorth i sefydlu cwmni dillad cynaliadwy yng Ngwynedd.
Mae gwaith Daniel wedi’i ysbrydoli gan natur a’r awyr agored yng ngogledd Cymru ac adlewyrchir hynny yn enw’r cwmni, Pen Wiwar.
Drwy gefnogaeth elfen Mentro, Llwyddo’n Lleol, fe gafodd Daniel y cyfle i fynychu 10 sesiwn wythnosol gydag arbenigwyr busnes a chyfle i ennill cefnogaeth ariannol i symud Pen Wiwar o fod yn egin syniad i fusnes.
Ar ôl 10 wythnos o wrando, trafod a dysgu, fe gynhaliwyd noson Taro’r Nodyn, lle’r oedd y 12 unigolyn o ogledd-orllewin Cymru, a oedd yn rhan o’r cynllun, yn cael cyfle i gyflwyno eu syniadau busnes arloesol i banel o feirniaid.
Daniel ddaeth i’r brig a chipio’r wobr y noson honno, gan dderbyn £1000 yn ychwanegol i ddatblygu ei fusnes.
Dywedodd Daniel: “Mi oeddwn i’n ddigon ffodus i ennill y £1000 ychwanegol ar ôl bod ar y rhaglen deg wythnos lle dysgon ni rywbeth gwahanol bob wythnos.
“Roedd ennill y wobr yn meddwl lot i fi, ac yn golygu ’mod i’n gallu mynd ’mlaen i gychwyn y busnes tipyn yn gynt nag y buaswn i fel arall.
“Mae gweithio efo artistiaid lleol i greu dillad cŵl ac unigryw wedi bod yn freuddwyd gena i, ac mae Llwyddo’n Lleol wedi fy helpu i wireddu’r freuddwyd honno.”
Ychwanegodd Daniel: “Mi wnaeth bod yn rhan o’r elfen Mentro, Llwyddo’n Lleol roi nodau a thargedau i mi yn wythnosol i gychwyn y busnes. Ar unwaith, roedd yna deimlad mawr o ‘accountability’ ac mi wnaeth hyn fy helpu i wneud yn siŵr bod y syniad yn troi’n fusnes.
“Mae dysgu gan bobl brofiadol ac arbenigwyr yn y maes yn gyfle unigryw iawn sy’n brofiad amhrisiadwy ar gyfer person ifanc sy’n dechrau allan mewn byd busnes.”
Mae Daniel yn awr yn barod i roi'r hyn y mae wedi’i ddysgu ar waith, a chymryd y cam mawr o lansio ei fusnes, Pen Wiwar, yn swyddogol.
Dywedodd Aled, swyddog yr elfen Mentro, Llwyddo’n Lleol: “Mae’n wych gweld bod Daniel wedi elwa o’r profiad o fod yn rhan o’r rhaglen, gan roi’r hyn y mae wedi’i ddysgu ar waith.
“Rydym yn falch iawn o weld bod y prosiect yn llwyddo i gwrdd â’i amcanion gan roi unigolion ifanc ARFOR ar ben ffordd i ddechrau busnesau arloesol yn ARFOR.”
I gael cip olwg ar ddyluniadau unigryw Pen Wiwar, ewch draw i wefan newydd sbon y cwmni am 7yh heno, penwiwar.com
Bydd hefyd gyfle i chi brynu dillad Pen Wiwar ar ei stondin yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon ym mis Mai.
I ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, ewch i: https://llwyddonlleol2050.cymru/
- All6403
-
News
5971
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1652
-
Arts
1467
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
519
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
88
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3