Cyswllt Ffermio yn chwilio am arweinydd eithriadol i arwain rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth
March 12, 2025
A ydych yn angerddol am ddyfodol y sectorau ffermio, coedwigaeth a garddwriaeth yng Nghymru? A oes gennych sgiliau pobl gwych a hanes profedig o ran ffermio a rheoli busnes? Ydych chi'n entrepreneur llwyddiannus gyda phrofiad o ffyrdd arloesol neu amrywiol o weithio?
Mae Mentera, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, nawr yn dymuno penodi arweinydd newydd ysbrydoledig ar gyfer rhaglen Hŷn (Busnes ac Arloesedd) yr Academi Amaeth, sef menter datblygiad personol fawreddog Cyswllt Ffermio, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn ar ddeg.
Hyder, sgiliau a chymwysterau o'r radd flaenaf
“Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r hyder, y sgiliau a’r cymwysterau tir a busnes perthnasol i gefnogi, hyfforddi ac arwain ymgeiswyr y dyfodol wrth iddyn nhw gychwyn ar eu teithiau datblygiad personol unigol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi,” meddai Einir Davies, Pennaeth Sgiliau Cyswllt Ffermio.
Bydd y rôl ran-amser, hunangyflogedig, wedi’i lleoli yn bennaf yn y cartref, yn cynnwys cynllunio, trefnu a hwyluso rhaglen ysbrydoledig o weithdai, hyfforddiant ac ymweliadau astudio tra'n adeiladu a meithrin perthynas ymddiriedus gyda phob cyfranogwr, gan rymuso pob un i fynegi ei hun a chyflawni ei uchelgeisiau personol a busnes ei hun.
Eglurodd Ms Davies fod y rôl arweinydd yn cynnig boddhad a gwobrau swydd aruthrol, gyda'r deiliad mwyaf newydd yn dilyn yn olion traed rhai o unigolion mwyaf adnabyddus ac uchel eu parch Cymru.
A ydych chi’n barod i arwain, cefnogi a meithrin sêr gwledig yfory?
“Gyda’r rhaglen llawn gweithgareddau yn canolbwyntio ar dri chyfnod astudio byr ond dwys y flwyddyn – fel arfer ym mis Medi, Hydref a Thachwedd – gan gynnwys ymweliad astudio tramor a her rheoli busnes yn seiliedig ar fusnes fferm go iawn, mae ymrwymiad yr Academi Amaeth wedi bod yn hynod werth chweil i’n holl arweinwyr blaenorol, gan gyd-fynd yn gymharol hawdd â’u bywydau proffesiynol a theuluol prysur,” meddai Ms Davies.
Ffermwr a dyn busnes o Sir Ddinbych, Llyr Jones - sy'n fwy adnabyddus gan ei ffrindiau, ei gysylltiadau busnes a'i fentoreion fel 'Llyr Derwydd' - sydd wedi bod yn bennaeth ar y rhaglen ers 2019.
Ar ôl cymryd rhan am y tro cyntaf yn rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth fel cyfranogwr yn 2013, mae Llyr yn gwerthfawrogi’n uniongyrchol pa mor unigryw a digyffelyb yw’r rhaglen i’r rhai sy’n ddigon ffodus i gael eu dewis.
“Yn anad dim, roedd y bobl fusnes, y mentoriaid, yr hyfforddwyr a’r rhwydweithiau newydd o ffrindiau a chydweithwyr yr oeddwn wedi cyfarfod â nhw wedi hybu fy egni a’m huchelgais ar gyfer cymaint o agweddau ar fy mywyd yr wyf yn eu cymryd yn ganiataol bellach,” meddai Llyr, sydd â phortffolio ffermio amrywiol, gan gynnwys mentrau bîff, cig oen a dofednod ar raddfa fawr yn ogystal â sefydlu cwmni gweithgynhyrchu olew hadau rêp cyntaf Cymru.
“Roedd dychwelyd fel arweinydd y rhaglen ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn rhoi cyfle i mi roi yn ôl mewn rhyw ffordd, ac mae wedi bod yn werth chweil gweld cymaint o bobl, o bob sector o’r diwydiannau tir, yn ffynnu ac yn cyflawni cymaint.
“Heb os, mae bod yn rhan o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn brofiad boddhaol i ymgeiswyr a’u harweinwyr.
“Dyma’ch cyfle i fentora a chefnogi rhai o sêr cefn gwlad y dyfodol, y genhedlaeth sy’n gyfrifol am ddiogelu cynaliadwyedd a hyfywedd ffermio yng Nghymru yn y dyfodol – felly peidiwch ag oedi – gwnewch gais heddiw!”
I wneud cais am y contract hwn, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol ateinir.davies@mentera.cymru cyn 12pm dydd Gwener 28 Mawrth.
- All6403
-
News
5971
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1652
-
Arts
1467
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
519
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
88
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3