Cynllun Prynu Cartref newydd i gefnogi prynwyr tro cyntaf ar Ynys Môn
October 04, 2022
Yn y lle cyntaf bydd Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn, a lansiwyd gan y Cyngor Sir, yn defnyddio £325,000 o arian a sicrhawyd drwy’r premiwm ar ail dai i helpu trigolion lleol brynu eu cartref cyntaf yn ystod y 12 mis nesaf.
Ar 1 Ebrill 2017 rhoddwyd pwerau i awdurdodau lleol i’w galluogi i godi mwy o Dreth Gyngor ar eiddo sydd dim ond yn cael eu meddiannu bob hyn a hyn – ail dai neu eiddo gwag hirdymor.
Ers 2017, mae Cyngor Ynys Môn wedi gwneud y defnydd gorau posib o’r premiwm a’r cyllid y mae wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru.Y mae eisoes wedi cyfuno bron i £1.5m o gyllid o bremiwm y dreth gyngor a grantiau gwerth £1m gan Lywodraeth Cymru er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl ar y farchnad a helpu 128 o bobl i brynu eu cartref cyntaf.
Y gobaith nawr yw y bydd y Cynllun Prynu Cartref newydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy gefnogi mwy o drigolion lleol i brynu cartref drwy ddarparu benthyciadau ecwiti.
Mae Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn ar gael i:
- brynwyr tro cyntaf lleol sy’n cael trafferth prynu cartref
- pobl sydd wedi bod yn berchen ar eiddo yn y gorffennol ond sydd ddim ar hyn o bryd
- perchnogion sydd eisoes yn rhan o gynllun rhannu ecwiti ac sydd yn chwilio am gartref mwy addas
Mae’r cynllun yn golygu y bydd y Cyngor yn rhoi benthyciad ecwiti i ymgeiswyr sydd methu cael morgais digonol i brynu ar y farchnad agored er mwyn eu galluogi i brynu cartref heb orfod ariannu’r gost yn llawn. Wedyn bydd y tŷ yn dod yn eiddo ecwiti a rennir.
Bydd rhaid i ymgeiswyr fod â blaendal o 5% o leiaf i fod yn rhan o’r cynllun. Os neu pan y caiff yr eiddo ei werthu, bydd y perchennog yn ad-dalu’r cyfran ecwiti sy’n ddyledus i’r Cyngor yn seiliedig werth canran ecwiti’r Cyngor ar adeg gwerthu’r eiddo.
Eglurodd deilydd portffolio Tai Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery,
“Fel awdurdod lleol rydym yn llwyr ymwybodol o’r anawsterau y mae trigolion mewn cymunedau ar hyd a lled yr ynys yn eu hwynebu wrth geisio prynu eu cartref cyntaf.”
“Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn yw’n prosiect arloesol diweddaraf. Bydd yn defnyddio’r incwm a gynhyrchir drwy bremiwm y dreth gyngor i helpu mwy o bobl brynu cartref drwy ddarparu benthyciadau ecwiti.”
“Bydd y cynllun newydd – a lansiwyd mewn partneriaeth â Tai Teg – yn hwb ychwanegol y mae mawr ei angen i’r ddarpariaeth tai fforddiadwy sydd ar gael i drigolion lleol.”
Mae gan Wasanaeth Tai’r Cyngor gyfrifoldeb statudol i asesu anghenion tai ac arwain gwaith partneriaeth i ddarparu tai o ansawdd.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai, Ned Michael,
“Mae’n Strategaeth Dai ar gyfer 2022-2027 yn parhau i chwarae rôl ganolog wrth i ni weithio’n annibynnol, a chyda phartneriaid allweddol, i gwrdd ag anghenion tai ein trigolion lleol nawr ac yn y dyfodol.”
“Yn ogystal ag adeiladu nifer o dai Cyngor newydd, rydym yn creu cartrefi i deuluoedd drwy brynu hen dai Cyngor yn ôl a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi,
“Rydym yn defnyddio premiwm y dreth gyngor mewn ffordd gadarnhaol i gefnogi pobl leol a chreu cyfleodd iddynt fyw mewn tai o ansawdd yn eu cymunedau.”
Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Prynu Cartref Ynys Môn ar gael ar wefan Tai Teg https://taiteg.org.uk/cy/register ac mae copi o Bolisi Rhannu Ecwiti Cyngor Sir Ynys Môn ar gael ar ei wefan: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cynllun-prynu-cartref
- All6085
-
News
5698
-
Education
2101
-
Leisure
1854
-
Language
1607
-
Arts
1439
-
Environment
992
-
Politics
932
-
Health
670
-
Literature
644
-
Music
593
-
Money and Business
523
-
Agriculture
464
-
Food
425
-
Sports
356
-
The National Eisteddfod of Wales
302
-
Science and Technology
268
-
Online
260
-
Eisteddfod yr Urdd
153
-
Training / Courses
60
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Book reviews
13
-
Papurau Bro
13
-
TV
6
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
3
-
Letters
3