Cynllun i ehangu bioamrywiaeth ar draws coridor gwyrdd newydd Môn 

June 12, 2025

Mae astudiaeth ddiweddar sydd wedi’i gomisiynu gan Menter Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi adnabod sawl cyfle i wella tirweddau ac ecosystemau ar hyd coridor gwyrdd newydd ar yr ynys.  

Dan faner Glasffordd Môn, bydd y coridor yn llwybr cerdded a beicio aml bwrpas sy'n ymestyn o Niwbwrch yn ne'r ynys i Amlwch yn y gogledd. Nod y prosiect yw cefnogi byd natur, gwella cynefinoedd, a chyfoethogi'r amgylchedd naturiol ar draws Ynys Môn. 
 
Mae’r astudiaeth, sydd wedi canolbwyntio ar adran ddeheuol Glasffordd Môn, wedi datgelu ystod amrywiol o gynefinoedd ar hyd y llwybr, gan gynnwys glaswelltiroedd, llwyni, coetiroedd, a gwlyptiroedd. Mae’r cynefinoedd hyn yn cefnogi nifer o rywogaethau sydd wedi eu gwarchod, megis adar sy’n nythu, ystlumod sy’n clwydo ac yn mudo, ymlusgiaid, dyfrgwn, a sawl rhywogaeth o infertebratau daearol. 
 
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Prif nod yr astudiaeth oedd dod o hyd i ffyrdd lle gall bioamrywiaeth, cynefinoedd, a chymunedau lleol weld budd o ddatblygu coridor gwyrdd newydd. Fel rhan o’r astudiaeth cafodd y cyhoedd eu gwahodd i rannu eu barn trwy ateb holiadur a chymryd rhan mewn gweithdy. 
 
“Mae'r argymhellion yn cynnwys plannu rhywogaethau brodorol, creu cyrff dŵr, gwella ansawdd dŵr, a rheoli cynefinoedd a rhywogaethau. Roedd pwyslais hefyd ar gynigion penodol fel hadu blodau gwyllt, plannu coed, a gosod bocys nythu ar gyfer adar ac ystlumod. 
 
“Roedd yr astudiaeth hefyd yn gyfle i ddangos pwysigrwydd cynnwys cymunedau lleol wrth gyflawni prosiectau sy’n ehangu bioamrywiaeth.” 
 
Ychwanegodd Cadeirydd Glasffordd Môn, Dr Wyn Morgan: “Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â mwy na chysylltedd – mae’n ymwneud â diogelu a dathlu treftadaeth naturiol unigryw Ynys Môn. Bydd Glasffordd Môn yn  enghraifft fyw o sut y gall teithio cynaliadwy a bioamrywiaeth fynd law yn llaw.” 
 
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bartner allweddol yn natblygiad Glasffordd Môn. Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru CNC: “Mae Glasffordd Môn yn dod â gweledigaeth ein cynllun corfforaethol yn fyw – lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd. Bydd yn gwella ein cynefinoedd presennol, hybu cysylltedd i fyd natur, ac yn darparu ffyrdd o deithio sy’n fwy gwyrdd a diogel i gymunedau. 
 
“Trwy gysylltu ardaloedd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Gwarchodfa Natur Nant y Pandy a RSPB Cors Ddyga, mae'n agor mynediad i fannau gwyrdd braf. Mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol a swyddi, gan greu cyfleoedd newydd i dwristiaeth gynaliadwy.  
 
“Mae hyn yn enghraifft wych o sut y gallwn ni gysylltu pobl gyda natur wrth ddiogelu a gwella’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 
 
Y weledigaeth ar gyfer Glasffordd Môn yw creu llwybr canolog ar draws yr ynys a allai weithredu fel asgwrn cefn rhwydwaith ehangach o lwybrau o ansawdd uchel ar draws Ynys Môn a’r Fenai. Mae’r cyhoeddiad diweddar sy’n nodi bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau cyllid i ymestyn Lôn Las Cefni o Malltraeth i Niwbwrch yn cael ei ystyried yn gam pwysig i wireddu’r weledigaeth hon. 

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3