Cyngor Gwynedd yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd 2028

May 29, 2025

Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Gwynedd yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2028.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:

“Rydym wrth ein bodd o glywed bod aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd 2028 ac yn hynod ddiolchgar i’r awdurdod lleol am ddangos cymaint o gefnogaeth i'r mudiad a'r ŵyl ieuenctid fel ei gilydd.

“Rydym wrthi’n trafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal yr Eisteddfod. Edrychwn ymlaen at gadarnhau union safle’r ŵyl mewn cyfarfod cyhoeddus dros yr haf ac i ddechrau trefnu gyda gwirfoddolwyr lleol.”

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Gwynedd oedd Y Bala yn 2014, a chyn hynny Glynllifon ger Bangor yn 2012 a Llŷn yn 1998.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae’n fraint gallu cadarnhau fod Cyngor Gwynedd yn gwahodd Eisteddfod yr Urdd i’n sir yn 2028. Mae gan Wynedd hanes hir a llewyrchus o fod yn cydweithio gyda’r Urdd ac o groesawu ieuenctid o bob rhan o Gymru a thu hwnt yma am yr wythnos liwgar llawn hwyl. Rydan ni’n edrych ymlaen i drafod yr holl bosibiliadau gyda’r mudiad dros y misoedd nesaf er mwyn gwneud yn siŵr bydd yr ŵyl yn 2028 yr orau eto.

“Mae’r Urdd yn cynnig gymaint i blant a phobl ifanc a dwi’n gwybod y bydd selogion yr eisteddfod yn edrych ymlaen yn barod. Mae’n bwysig hefyd ein bod yn manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr fod y plant a’r teuluoedd hynny o Wynedd sydd efallai erioed wedi profi bwrlwm Eisteddfod yr Urdd o’r blaen yn cael y cyfle i fynd ac chael bod yn rhan o’r digwyddiad gwbwl Gymraeg a Chymreig unigryw hwn.”

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3