Cyhoeddi mai Ann Griffith yw Arweinydd Cymru a'r Byd Prifwyl Ceredigion
May 11, 2022
Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Ann Griffith wedi byw ar bum cyfandir dros y blynyddoedd, gyda’i chartref yn Washington DC erbyn hyn.
Fe’i magwyd ar aelwyd gynhwysol a chynnes, gan ei rhieni, Huw a Mair Wynne Griffith, Seilo, gyda chroeso mawr i bawb yn y cartref, gan gynnwys cannoedd o fyfyrwyr dros y blynyddoedd. Mae’i chwiorydd, Nia a Gwawr, sy’n dal i fyw yma wedi bod yn angor i Ann a’i theulu yng Nghymru.
Wedi cyfnod yn Llundain a Chasnewydd, aeth i astudio Diwinyddiaeth ym Manceinion, ac yna fe’i penodwyd yn Gaplan ar gyfer myfyrwyr tramor, lle y cyfarfu â Steve Hollingworth o Illinois, ei gŵr ers 39 o flynyddoedd. Mae’u plant, Gwennan, Angharad ac Aled, i gyd yn siarad Cymraeg er nad ydyn nhw wedi byw yng Nghymru. Mae gan Ann a Steve dri ŵyr, Owain, Dewi ac Wynn, ac un wyres, Carys.
Is-lywydd Cymdeithas Dewi Sant
Mae Ann yn Is-lywydd Cymdeithas Dewi Sant, Washington, ac wedi cyfrannu i nifer o raglenni radio a theledu yng Nghymru ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol dros y blynyddoedd.
Hi yw cydlynydd Heddwch Nain/Mam-gu yn yr Unol Daleithiau, rhan o Hawlio Heddwch sy’n cofio, dathlu a gwireddu apêl gwragedd Cymru at wragedd UDA ganrif yn ôl, i weithio dros fyd heb ryfel.
Bydd Ann yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod a gynhelir nos Sul 31 Gorffennaf yn y Pafiliwn, ar faes yr Eisteddfod.
- All5926
- News 5567
- Education 2074
- Leisure 1851
- Language 1576
- Arts 1419
- Environment 982
- Politics 931
- Health 664
- Literature 644
- Music 587
- Money and Business 502
- Agriculture 435
- Food 405
- Sports 347
- The National Eisteddfod of Wales 291
- Science and Technology 261
- Online 260
- Eisteddfod yr Urdd 152
- Training / Courses 50
- Competitions 47
- Opinion 15
- Book reviews 13
- Papurau Bro 13
- Music Reviews 6
- Letters 3